Hafan>Newyddion>Chwilio am atebion i faterion pwysicaf ein hoes

Chwilio am atebion i faterion pwysicaf ein hoes

Barn | 28 Hydref 2021

Gan
Yr Athro Cara AitchisonLlywydd ac Is-Ganghellor

Mae gan ein wyth prifysgol sy'n gwasanaethu Cymru a'r byd ehangach rôl ganolog wrth arwain ar adegau o argyfwng; arweinyddiaeth ynghyd â’r dewrder i geisio atebion i broblemau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf hirsefydlog ein hoes. Mae ein prifysgolion yn ymroddedig i yrru adferiad economaidd ôl-Covid sy'n wyrddach, iachach a thecach ac mae gennym y màs critigol a'r gallu i fod yn gatalydd ar gyfer newid.

Yn cynhyrchu £5.3 biliwn o allbwn yn 2019/20, yn cyflogi 62,000 o bobl a chynnal un ym mhob 20 o’r swyddi yng Nghymru; yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Brifysgolion Cymru yn gynharach y mis hwn, mae ein prifysgolion nid yn unig yn gyrru'r economi, maent hefyd yn allweddol er mwyn mynd i'r afael â Covid a heriau byd-eang eraill. Gwelsom yr hyn y gall prifysgolion eu cyflawni trwy ddatblygiad brechlyn Astra Zeneca Rhydychen, sydd bellach wedi'i gynhyrchu a'i ddosbarthu'n fyd-eang.

Yn ogystal â Covid, ceir problem fyd-eang ddybryd arall ac un a fu’n argyfwng byd-eang am gryn dipyn yn hwy na Covid. Cyn COP26 yr wythnos hon yng Nglasgow (26ain Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig), mae 140 o brifysgolion y DU, gan gynnwys pob un o'r wyth yng Nghymru, wedi cytuno i chwe ymrwymiad i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Cytunwyd ar hyn mewn adroddiad â’r teitl 'Wynebu argyfwng yr hinsawdd: ymrwymiad gan brifysgolion y DU'​​​​​​​ y’i cyhoeddwyd gan Universities UK ar 20 Hydref.

Mae'r ymrwymiad hwn yn nodi sut y bydd prifysgolion y DU yn cyflawni gostyngiad o 100 y cant mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050, y dyddiad a ymgorfforir mewn deddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr. Fel Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, mae uchelgais llawer o brifysgolion i gyrraedd Sero Net yn mynd ymhellach na'r hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Ym Met Caerdydd, mae ein huchelgais yn cyd-fynd â'r targedau a fabwysiadwyd gan Gyngor Caerdydd ac uchelgais ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus; byddwn yn cyrraedd y Sero Net hwnnw erbyn 2030.

Mae ein prifysgolion yn allweddol wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd. Rydym yn gyfrifol am addysgu'r genhedlaeth nesaf am nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Mae gennym rôl o ran galluogi pawb i ddeall tystiolaeth gwyddoniaeth hinsawdd sylfaenol ac ymateb â phragmatiaeth i'r argyfwng hinsawdd. Cyflawnir ymchwil ac arloesi gennym sy'n datgloi'r atebion i’r datrysiadau technolegol sydd eu hangen i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil. Ond, yn fwyaf gweledol, mae gennym ddyletswydd i wneud yn ôl ein gair drwy wyrddio ein campysau ac arwain y ffordd ar y daith i Sero Net drwy leihau ein dibyniaeth ein hunain ar danwydd ffosil a chaffael a buddsoddi anfoesol.

Gofynnir inni ailfeddwl ein campysau gan argyfwng yr hinsawdd a Covid fel ei gilydd, wrth i fyfyrwyr geisio ymgysylltiad mwy rhyngweithiol a phwrpasol mewn amgylcheddau o ansawdd uchel a fydd yn disodli dysgu mwy goddefol y darlithfeydd mawr neu ystafell wely astudio’r cyfnod clo.

Gallwn gyfuno'r ddwy agenda newid hyn i greu amgylcheddau bywiog a gwyrddlas sy'n meithrin pwrpas, lle, cymuned a pherthyn trwy agor ein campysau i gysylltu â'n cymunedau a chynnal hoffter adnewyddedig y genedl o fyd natur a'r awyr agored.

Gallwn 'ail-bwrpasu' adeiladau presennol yn hytrach na chanolbwyntio ar adeiladu adeiladau newydd yn unig, gan gydnabod y rhyddheir dros 30% o allyriadau carbon oes gyfan adeilad newydd cyn i'r adeilad gael ei agor hyd yn oed. Mae ein Hysgol Dechnolegau Caerdydd newydd ar Gampws Llandaf bellach wedi'i lleoli mewn adeiladau o’r 1950au sydd wedi’u hailbwrpasu.  Pan fyddwch y tu mewn i'r amgylchedd uwch-dechnoleg ac wedi'ch amgylchynu gan robotiaid sy'n siarad, y mae'n amgylchedd prifysgol pwrpasol newydd sbon.

Bydd y teithio i'n campysau hefyd yn fwy cynaliadwy ac yn iachach ac rydym yn croesawu’r gwaith o ddatblygu llwybr beicffordd allweddol ar draws Campws Llandaf Met Caerdydd, sy’n ategu at ein cynllun ariannu 5,000 aelodaeth am ddim i annog ein myfyrwyr a'n staff i fanteisio ar gynllun beicio Nextbike y Ddinas.

Fel prifysgol sydd ag 11,500 o fyfyrwyr yng Nghaerdydd a thros 9,000 yn rhagor yn astudio ar gyfer graddau Met Caerdydd ledled y byd, rydym yn benderfynol o beidio â dychwelyd i fywyd amgylcheddol niweidiol yr hedfanwyr aml, ond yn hytrach i ddefnyddio'r arloesedd, y dechnoleg a'r sgiliau y’u datblygwyd mor gyflym dros y ddwy flynedd ddiwethaf i helpu i gyflawni ein huchelgeisiau Sero Net.

Ni fydd unrhyw brifysgol yn cyflawni ei huchelgeisiau Sero Net ar ei phen ei hun. Mae ein partneriaethau ymchwil ac arloesi gyda'r llywodraeth, byd diwydiant, busnes a'r gymuned yn allweddol i arweinyddiaeth ac atebion cydgysylltiedig.

Heddiw, mae Canolfan Diwydiant Bwyd Met Caerdydd yn cynnal cynhadledd bwysig i gynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru. Bydd siaradwyr yn cyflwyno cynigion ar sut y gall sector bwyd a diod Cymru gyfrannu at leihau allyriadau carbon wrth gynhyrchu, prosesu, pecynnu a chludo bwyd; gweithgareddau sy'n cyfrannu at fwy na thraean o’r allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang a achosir gan bobl.

Mae hon yn her fyd-eang sy'n galw am arweinyddiaeth glir er mwyn cynnig a rheoli newid sylweddol. Mae'r newidiadau bach yn bwysig hefyd, megis cynnal marchnadoedd ffermwyr a Chaffis Atgyweirio ar y campws ac agor ein siop fwyd 'dim deunydd pacio' Sero Met yr wythnos ddiwethaf. Mae pob un o'r camau bach hyn yn helpu i arwain y ffordd tuag at ddyfodol Sero Net.

Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf fel colofn ‘University View’ yn The Western Mail ar 28 Hydref 2021.