Hafan>Newyddion>Graddedigion Met Caerdydd yn arwain y ffordd gyda chanlyniadau cyfloagaeth

Graddedigion Met Caerdydd yn arwain y ffordd gyda chanlyniadau cyfloagaeth

Newyddion | 16 Mehefin 2022

Mae ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw (Mehefin 16 2022) gan Hynt Graddedigion 2019/20 yn dangos bod 95.6% o raddedigion Met Caerdydd yn mynd i mewn i fyd gwaith neu astudiaethau pellach 15 mis ar ôl iddynt adael y brifysgol. Mae'r ffigur hwn yn gynnydd o 2.3% o’r gymharu â llynedd, ar ôl blwyddyn heriol i'r economi.

Mae'r ffigur hwn yn uwch na chyfartaledd y DU / Cymru o 93.7%, ac yn golygu mai Met Caerdydd yw'r brifysgol orau yng Nghymru o ran cyflogadwyedd graddedigion.

Wrth ystyried lefel y gwaith, mae 71.4% o'n graddedigion wedi dod o hyd i gyflogaeth ar lefel broffesiynol, cynnydd o 3% o’i gymharu â chanlyniadau 2021, sy’n dangos cynnydd cryf arall er gwaetha’r amodau heriol.

Mae graddedigion Met Caerdydd hefyd yn rhan hanfodol o economi de Cymru gyda 45% yn aros yn yr ardal i ddilyn eu meysydd gyrfa. 

Mae'r data Hynt Graddedigion hefyd yn rhoi dadansoddiad o'r diwydiannau cyflogaeth lle mae graddedigion y Brifysgol yn dilyn eu meysydd gyrfa. Y tri maes cyflogaeth fwyaf poblogaidd yw: iechyd dynol a gwaith cymdeithasol; addysg; a masnach cyfanwerthu a manwerthu. 

Dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Llywydd ac Is-Ganghellor Met Caerdydd: 

"Mae Met Caerdydd yn rhoi pwyslais cryf ar ddarparu'r sgiliau unigryw i raddedigion ffynnu yn y farchnad gyflogadwyedd cystadleuol sydd ohoni. Mae ein dull arloesol yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn meddu ar y profiad sydd ei angen i lwyddo drwy gydol eu gyrfaoedd.

"Rydym yn cynnig cyrsiau o ansawdd uchel i'n myfyrwyr gyda chysylltiadau cryf â diwydiannau a phroffesiynau yn ogystal â gwasanaeth gyrfaoedd o'r radd flaenaf – mae hyn i gyd yn creu'r amgylchedd perffaith ar gyfer datblygiad personol a gyrfaol.

"Felly mae'n rhoi boddhad mawr i weld bod ein holl waith yn y maes hwn wedi dwyn ffrwyth yn y set ddiweddaraf o ganlyniadau a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl weithwyr sydd wedi gosod safon mor uchel."