Hafan>Newyddion>A ydym yn anelu at ffilm drychineb?

A yw Hollywood yn defnyddio’r argyfwng hinsawdd i gynhyrfu’r dyfroedd? Neu a ydym yn anelu at ffilm drychineb?

Barn | 4 Tachwedd 2021

Bwced popcord sy'n gorlifo

Gan
Jheni Osma, Darlithydd yn y Cyfryngau a Newyddiaduraeth, Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd a Newyddiadurwr a darlledwr gwyddoniaeth.

Mae Hollywood wedi camddeall pethau.

Ystyriwch y ffilm The Day After Tomorrow o 2004. Y plot sylfaenol: mae cynhesu byd-eang yn tarfu ar geryntau cefnfor dwfn, sy'n achosi cyfres o ddigwyddiadau tywydd eithafol, gyda'r tymheredd yn plymio i -65°C dychrynllyd. Brrrrrr! Dyna oer! Ond a allai hynny ddigwydd mewn gwirionedd?

Er i'r ffilm daro'r nod drwy godi'r bys canol at ddiffyg gweithredu amgylcheddol yr elît gwleidyddol, nid oedd y wyddoniaeth yn gwneud synnwyr. Gallai, fe allai cynhesu byd-eang ymyrryd â cherrynt y cefnfor ac o bosibl achosi oeri dros Ogledd yr Iwerydd a'r tiroedd cyfagos. Ond, na, ni fyddai hynny'n achosi rhewi byd-eang dros nos – byddai'n cymryd canrifoedd i oeri. Ond wrth gwrs, nid yw'r senario hwnnw'n addas ar gyfer ffilm dda.

Yn aml iawn, mae Hollywood wedi bod yn euog o ddehongli gwyddoniaeth hinsawdd yn drwsgl. Mae'n siŵr ei bod hi'n ormod o demtasiwn i wneuthurwyr ffilmiau beidio â chyplysu trychineb amgylcheddol â doleri ar gyfer ffilm drychineb. Un broblem yw y gall gwyddoniaeth hinsawdd fod yn gymhleth ei deall. Felly dyma esboniad byr...

"Mae camwybodaeth yn lledaenu dryswch a pharanoia, a gellir ei defnyddio gan wadwyr newid hinsawdd i hau hadau amheuaeth – a llenwi eu pocedi hwythau a'r diwydiant olew."

Mae nwyon tŷ gwydr atmosfferig, megis carbon deuocsid (CO2) a methan, yn dal rhywfaint o wres yr Haul sydd wedi taro'r Ddaear a bownsio'n ôl i'r atmosffer. Nawr, mae arnom angen yr hyn a elwir yn 'effaith tŷ gwydr' i oroesi ar y blaned hon – hebddo, byddai'r Ddaear yn rhewi. Ond ar hyn o bryd, rydym yn cynhyrchu gormod o CO2 a nwyon tŷ gwydr eraill o'r broses o losgi tanwydd ffosil a newidiadau i ddefnydd tir sy'n golygu nad yw'r Ddaear yn amsugno cymaint o CO2 ag o'r blaen. Ac, yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf, mae allyriadau CO2 o ganlyniad i weithgarwch dynol wedi cynyddu'n ddramatig. Oni bai ein bod ni'n lleihau allyriadau carbon, bydd cynhesu byd-eang yn arwain at y llenni iâ'n toddi a chynnydd dilynol yn lefel y môr, a digwyddiadau tywydd mwy eithafol, fel y mega-gorwyntoedd, tanau gwyllt dinistriol a llifogydd marwol a welwyd gennym yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Felly, i ateb y cwestiwn: A yw Hollywood yn defnyddio'r argyfwng hinsawdd i gynhyrfu'r dyfroedd? Ydyn, mewn llawer o ffilmiau. Ond, i ateb y cwestiwn arall: A ydym yn anelu at ffilm drychineb? Ydyn. Neu, fel man lleiaf, fe allem fod.

Bob degawd ers 1979, mae rhew môr yr Arctig wedi crebachu gan ardal sydd tua maint Ffrainc.

Mae llen iâ'r Antarctig hefyd yn edrych yn fregus. Mae rhewlifoedd ledled y byd yn toddi. Ac amcangyfrifir bod newid hinsawdd wedi achosi i 4.2 miliwn hectar ychwanegol o goedwig California i losgi rhwng 1984 a 2015. Ystadegau difrifol.

Yn 2015, mabwysiadwyd Cytundeb Paris gan 196 o wledydd, cytundeb rhyngwladol ar newid hinsawdd sy'n rhwymo mewn cyfraith, â'r nod o gyfyngu cynhesu byd-eang ymhell islaw 2°C, 1.5°C yn ddelfrydol, o'i gymharu â lefelau cyn-ddiwydiannol. Nid ydym ar y trywydd iawn ar hyn o bryd. Mae dadansoddiad diweddar gan Raglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig yn dangos bod gwledydd ledled y byd yn bwriadu echdynnu mwy na dwbl y cyfanswm o danwydd ffosil a ganiateir gan y targed o 1.5°C. Mae hyn yn peri pryder gwirioneddol. Oni bai bod gostyngiad sydyn mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2030, bydd cynhesu byd-eang yn codi dros 1.5°C yn y degawdau nesaf. Erbyn 2030, mae angen inni fod yn 'sero net' – rhaid i faint o nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir gydbwyso'r swm a dynnwyd o'r atmosffer. Mae'r buddsoddi mewn piblinellau olew yn awgrymu y gallai'r uchelgais honno fod yn freuddwyd gwrach.

Y newyddion da yw y cafwyd deffroad amgylcheddol – ac mae rhai sectorau o'r diwydiant gwneud ffilmiau'n ein helpu ni i ddeffro o'n trwmgwsg. Mae'r animeiddiad Princess Mononoke, a rhaglenni dogfen fel An Inconvenient Truth Al Gore neu Before the Flood Leonardo DiCaprio'n mynd i'r afael â materion amgylcheddol. Ac mae The Trick y BBC yn  dramateiddio'r Sgandal 'Climategate', pan ddefnyddiwyd e-byst wedi'u hacio gan wadwyr newid hinsawdd i honni bod gwyddonwyr yn ffugio data a oedd yn profi cynhesu byd-eang.

Wrth gwrs, ni fydd rhaglenni dogfen a dramâu o'r fath yn cyrraedd pawb. A byddai rhai'n dadlau bod ffilmiau fel The Day After Tomorrow – y ffilm â'r enillion chweched mwyaf yn 2004 – yn helpu i gyfleu'r neges amgylcheddol i'r lluoedd. Ond, fel newyddiadurwr gwyddoniaeth, rwy'n digio wrth anghywirdebau gwyddonol a chamddefnyddio'r gwir. Mae camwybodaeth yn lledaenu dryswch a pharanoia, a gellir ei defnyddio gan wadwyr newid hinsawdd i hau hadau amheuaeth – a llenwi eu pocedi hwythau a'r diwydiant olew.

Beth allwch chi ei wneud i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd?

Er bod yr elît gwleidyddol yn dadlau dros weithredu amgylcheddol yn erbyn adferiad economaidd, gallwn ni i gyd chwarae ein rhan fach wrth helpu i frwydro yn erbyn cynhesu byd-eang.

Rydym i gyd wedi clywed y dylem gerdded neu feicio mwy na defnyddio'r car, cael gwared ar blastigau untro, a newid i gyflenwr ynni gwyrdd. Ond a wyddoch chi fod y diwydiant dillad yn cynhyrchu 1.2 biliwn o dunelli o allyriadau carbon bob blwyddyn? Mae hynny'n fwy na'r diwydiant awyrennau! Felly, ceisiwch brynu mwy o ddillad ail-law. Mae'r dyddiau lle'r oedd siopau elusennol ond yn gwerthu eitemau treuliedig sy'n arogli fel atig rhywun wedi hen fynd. Ac apiau marchnad ffasiwn sy'n gwerthu dillad ail-law sy'n mynd â hi bellach.

Ffordd arall o lwyddo drwy leihau carbon yw newid i ddeiet mwy cynaliadwy. Prynwch fwy o ffrwythau a llysiau lleol tymhorol, nad oes angen eu tyfu mewn tai gwydr sy'n llyncu ynni. Torrwch 'filltiroedd bwyd' drwy osgoi nwyddau ag 'ôl troed carbon' uchel a gaiff eu cludo draw atom o wledydd egsotig. Ac, os ydych chi'n mynd i dretio'ch hun i ambell bryd â chig, newidiwch i gyw iâr yn lle cig eidion, gan fod gwartheg yn dorwyr gwynt methan mawr ac mae angen llawer o dir iddynt dyfu a thorri gwynt arno. Neu bwytwch bysgod cregyn deuglawr wedi'u ffermio, fel wystrys a chregyn gleision, sydd ag ôl troed amgylcheddol is na bwydydd eraill, gan nad oes angen porthiant pysgod arnynt ac maent yn 'beirianwyr ecosystem' da – sy'n diogelu rhywogaethau eraill. Ar ben hynny, maen nhw'n llawn maeth.