Skip to main content

Njide Ezechi

Tiwtor Personol / Darlithydd Cyswllt

Adran:

Rhif/lleoliad swyddfa:

Rhif ffôn:+44(0)29 2020 5735

Cyfeiriad e-bost: nezechi@cardiffmet.ac.uk

Trosolwg/bywgraffiad byr

Mae gan Njide Ezechi BA mewn Ieithoedd Modern o Brifysgol Nigeria ac mae'n rhugl mewn Ffrangeg ac Almaeneg. Derbyniodd Njide TAR (PCET) gan Brifysgol Greenwich, Llundain ac mae wedi bod yn ddarlithydd iaith ym Mhrifysgol Ife, Nigeria a Phrifysgol y Celfyddydau yn Llundain. Mae hi hefyd wedi dysgu yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro ac mewn ystod o leoliadau trydydd sector a lleoliadau cymunedol yng Nghaerdydd.

Mae gan Njide brofiad helaeth o weithio yn y sector preifat mewn amryw o rolau. Yn Nigeria bu’n gweithio fel ieithydd / cyfieithydd mewn cwmni llongau; yn Llundain fel hyfforddwr gwasanaethau cwsmeriaid yn Visa International.  Hyd at 2013, bu Njide yn gweithio fel rheolwr addysg ac arweinydd cwricwlwm ieithoedd yn sector Addysg Oedolion Cyngor Caerdydd.

Yn 2013, cyflogwyd Njide fel tiwtor personol yn YRhC.  Fel darlithydd cyswllt mae hi wedi cyflwyno cyrsiau PDP i fyfyrwyr israddedig a sgiliau academaidd i fyfyrwyr Sylfaen. Mae hi wedi datblygu a darparu gweithdai sy'n ymwneud ag ystod o sgiliau academaidd i fyfyrwyr israddedig a Meistr.  Mae hyfforddiant Njide fel hyfforddwr bywyd a’i phrofiad mewn siarad ysgogol yn ei helpu i ymateb i'r her bleserus o ysgogi ac annog myfyrwyr i gyrraedd eu llawn potensial.

Addysgu.

Ymchwil

Cyhoeddiadau allweddol

Prosiectau a gweithgareddau eraill

Dolenni allanol