Ysgol Reoli Caerdydd>Staff>Dr Kasha Minor

Dr Kasha Minor

Dr Kasha Minor

Darlithydd mewn Lletygarwch

Adran Rheoli Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau
Rhif ffôn:  +44 (0) 2920416984
Cyfeiriad E-bost:  kminor@cardiffmet.ac.uk

Proffil

Mae Kasha yn ddarlithydd mewn Rheolaeth Lletygarwch ac ymchwilydd yn Ysgol Reoli Caerdydd. Ymunodd â'r adran, yn rhan-amser, yn 2013, gan symud i swydd amser llawn yn 2018. Mae ganddi 11 mlynedd o brofiad o weithio o fewn y diwydiant Lletygarwch ac mae'n angerddol amdano hyd heddiw.

Mae Kasha yn arweinydd ar gyfer modiwlau Rheolaeth Bwyd a Diod Rhyngwladol, Dylunio Lleoliad ac Egwyddorion Lletygarwch. Mae'n rhan o'r tîm modiwl ar gyfer Digwyddiadau Lletygarwch a Gweithrediadau, Lletygarwch Byd-eang, Dulliau Ymchwil, Prosiectau Diwydiant. Mae hi'n goruchwylio myfyrwyr sy'n ymgymryd â thraethodau estynedig ar lefelau israddedig a Meistr, yn ogystal â thraethodau ymchwil doethuriaeth.

Mae hi wedi bod yn ymwneud ag ysgolion Haf a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Ljubljana a Phrifysgol Gatholig Lyon.

Ymchwil

Mae diddordebau ymchwil Kasha yn cynnwys rheolaeth lletygarwch a thwristiaeth, gyda ffocws ar gyfryngau digidol, cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr a chyfryngau cymdeithasol ar y diwydiant lletygarwch. Mae ei dull yn ansoddol gyda'r nod o ganolbwyntio ar farn, profiadau ac agweddau rhanddeiliaid unigol. Ymchwiliodd ei PhD i effeithiau gwefannau bargeinion dyddiol, fel Groupon, ar ddiwydiant gwestai yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae hi'n ymwneud â gwaith cydweithredol gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Ljubljana, Slofenia a Phrifysgol Ca' Foscari, yr Eidal, gan edrych ar ddefnydd gwefannau bargeinion dyddiol yn rhanbarth Môr y Canoldir.

Publications

Minor, K., Carlisle, S, and Dixey, L. (2020), Rethinking digital foci - what are the real digital needs of Welsh tourism organisations?, e-Review of Tourism Research 17(2), p.188-203

Budler, M., Bratec, M., Minor, K. and Tomat, L. (2019) A business model approach towards the understanding of daily deals within internet distribution systems, Tourism Economics, Special Issue: E-Tourism Economics, pp. 1-25

Minor, K. and Bratec, M. (2019), Management and Implications of Daily Deal Promotions in the Hospitality Industry: Towards Their Holistic Understanding, in Digital Marketing Strategies for Tourism, Hospitality, and Airline Industries, Jose Duarte Santos and Oscar Lima Silva (Eds), pp. 159-178

Tomat, L., Bratec, M., Minor, K. and Budler, M. (2018), Daily Deals in the Mediterranean Region: A data Analytical Approach, eReview of Tourism Research, 16(2-3), pp. 13-23 

Bratec, M., Tomat, L., Budler, M. and Minor, K. (2018), Kaj nam analitika masovnih podatkov lahko pove o uporabi spletnih bliskovitih ponudb v turizmu?, Economic and Business Review (online)

Projects

Daily Deal Business Model Investigations funded by University of Ljubljana  

Assessing the ease of use of daily deal websites and perceived trustworthiness of hospitality offers with Perceptual Experience Laboratory, Cardiff Metropolitan University 

External Links