Yn dilyn deuddeg mlynedd o entrepreneuriaeth, penderfynodd Zoe ddilyn gyrfa yn y byd academaidd ym maes addysg menter, gan ymuno â thîm Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2018 yn rhan-amser cyn dod yn llawn amser yn 2022. Yn y gorffennol, bu'n dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, a Phrifysgol Wolverhampton.
Mae hi hefyd wedi gweithio ym maes addysg menter allgyrsiol mewn colegau AB, gan gefnogi myfyrwyr i sefydlu eu busnesau eu hunain, a bod yn rhan o dîm darparu Hyrwyddwr Menter Llywodraeth Cymru ar gyfer yr 'Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf' sydd wedi ennill gwobrau cenedlaethol yn 2020 a 2021.
Mae gan Zoe brofiad o ddylunio a chyflwyno'r cwricwlwm israddedig ac ôl-raddedig mewn Entrepreneuriaeth, Arweinyddiaeth, Cyllid Entrepreneuraidd, Adnoddau Dynol, a Chreu Achosion Busnes y Sector Cyhoeddus.
Yn dilyn ei gradd Meistr mewn Rheoli Adnoddau Dynol, a TAR (AHO), mae hi bellach yn dechrau ar astudiaeth Ddoethurol, gyda diddordeb ymchwil penodol yn y berthynas rhwng addysgeg entrepreneuraidd a chanlyniadau cyflogadwyedd.