Hyd yn hyn, mae Dr. Khan wedi cyhoeddi ei waith ymchwil mewn cyfnodolion rhyngwladol megis Finance Research Letters, International Journal of Finance and Economics, International Journal of Islamic and Middle Eastern Finance and Management, Journal of Financial Crime, Journal of Management and Governance and Soft Computing, ymhlith eraill.
O ystyried ei arbenigedd yn natblygiad economeg Islamaidd, mae ganddo ddiddordeb parhaol mewn materion sy’n ymwneud â llywodraethu corfforaethol a llygredd mewn systemau bancio deuol lle mae banciau Islamaidd a chonfensiynol yn gweithredu ochr yn ochr â’i gilydd.
Mae ei ymchwil bresennol yn canolbwyntio’n bennaf ar ddefnyddio modelau clasurol mewn Bancio a Chyllid Islamaidd, fodd bynnag, mae ei ffocws ymchwil wedi newid, ac mae’n bwriadu ymestyn ei waith cyfredol i archwilio’r defnydd o FinTech mewn Bancio a Chyllid Islamaidd ar gyfer cynhwysiant ariannol. Mae’r ymchwil yn FinTech lle mae cyllid yn cwrdd â chyfrifiadura yn dal i fod yn ei fabandod yn y sector bancio a chyllid Islamaidd.
Nod ei ymchwil presennol yw archwilio’r llenyddiaeth gynyddol ar sail ddamcaniaethol a thystiolaeth empirig ynghylch rôl technoleg ariannol mewn cynhwysiant ariannol a darparu dull newydd i werthuso goblygiadau cychwyniadau Islamic FinTech. I’r perwyl hwn, sefydlodd hefyd agenda ymchwil ryngddisgyblaethol trwy ddefnyddio cymhwysiad arloesol o wyddor data, e.e., dysgu peirianyddol, dysgu dwfn, dadansoddi testunau, a thechnegau data mawr.