Yn adrodd i Ddeon Ysgol Reoli Caerdydd, rwy'n chwarae rhan ganolog yn rheolaeth yr Ysgol, gan arwain y modd y darperir gwasanaethau proffesiynol a sicrhau bod canlyniadau'n cyd-fynd â nod strategol y Brifysgol o ddod yn un o 50 Prifysgol Uchaf y DU.Mae gen i'r cyfrifoldeb cyfan dros reolaeth gyffredinol yr Ysgol, gan gynnwys cyllidebau a chyllid, adnoddau dynol, dyrannu gofod, cyfathrebu, iechyd a diogelwch a rheoli risg.Rwy'n cymryd rhan weithredol mewn datblygu strategaeth a pholisi, cyrchu adnoddau a datblygu seilwaith yr Ysgol a sicrhau ei datblygiad effeithlon a gweithredol, gan ymdrechu am ragoriaeth broffesiynol ym mhob maes gweithgaredd.
Fel rhan o'r ymgyrch i wella perfformiad, rwy'n cofleidio ac yn cefnogi datblygiad yn erbyn Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU, gan gefnogi datblygiad proffesiynol cychwynnol a pharhaus staff academaidd a staff cymorth yn yr Ysgol. Rwy'n fentor i staff a myfyrwyr ac yn ceisio creu amgylchedd sy'n dangos cydraddoldeb, ymddiriedaeth a pharch er mwyn cyflawni ein gweledigaeth strategol.
Rwyf wedi dal swyddi uwch mewn Addysg Bellach ac Uwch gan gynnwys Pennaeth Derbyn a Matriciwleiddio, Rheolwr Arholiadau ac Asesiadau a Rheolwr Gwasanaethau Myfyrwyr.