Yn gyffredinol, mae fy ymchwil yn ymwneud â: defnydd y wladwriaeth o bŵer yn erbyn yr unigolyn; creu, cymhwyso, a statws y gyfraith; a damcaniaeth y gyfraith a deddfu. Mae'r pynciau hyn yn croesi meysydd cyfraith gyhoeddus, damcaniaeth gyfreithiol, ac athroniaeth y gyfraith.
Yn ogystal â hyn, mae gennyf ddiddordeb hefyd yn y defnydd o athroniaeth i ddatblygu myfyrio beirniadol yn y gyfraith ac addysg gyfreithiol.