Mae Lucy yn Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Marchnata. Mae ganddi 14 mlynedd o brofiad ym maes addysg uwch yn y Deyrnas Unedig. Derbyniodd ei PhD mewn Marchnata o Ysgol Busnes, Prifysgol Loughborough yn 2008. Cyn ymuno ag Ysgol Reoli Caerdydd, bu Lucy’n gweithio mewn swyddi academaidd yn Northumbria, Newcastle, a Phrifysgol Napier Caeredin. Bu’n Arweinydd Rhaglen ar gyfer MBA Leadership Practice ac yn arholwr allanol ar gyfer y rhaglen Msc. International Marketing Coomunication ym Mhrifysgol Lincoln.
Mae ymchwil Lucy yn canolbwyntio'n bennaf ar marchnata gwasanaeth ac ymddygiad defnyddwyr. Mae ganddi ddiddordeb mewn deall sut mae sefydliadau'n defnyddio technoleg wrth ddarparu gwasanaethau ac yn creu gwerth ar y cyd gyda’r cwsmeriaid. At hynny, mae ei hymchwil ddiweddar wedi ymestyn i faes cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR). Mae ei hastudiaeth ddiweddaraf yn archwilio a yw rhaglenni CSR yn cael dylanwad sylweddol ar ymatebion cwsmeriaid mewn cyd-destun rhyngwladol.