Gadewais yr ysgol yn 16 oed, a mynd i'r diwydiant Bancio a Chyllid, lle gweithiais fy ffordd i fyny o glerc swyddfa gefn i Reolwr Cysylltiadau Cyfranddalwyr ac wedyn Rheolwr Gweithrediadau gyda chyfrifoldeb dros tua 300 o staff.
Rwyf hefyd wedi rhedeg fy musnes fy hun am gyfnod byr. Rwyf wedi bod ym Met Caerdydd ers tua 10 mlynedd, i ddechrau fel tiwtor cyswllt ac am y 7 mlynedd diwethaf fel darlithydd parhaol. Fe wnes i fy holl astudiaethau prifysgol wrth weithio'n llawn amser A chael fy nau blentyn. Ar hyn o bryd rwy'n astudio ar gyfer DBA, a ffocws fy ymchwil yw Ymgysylltu â Myfyrwyr.