Skip to main content
Ysgol Reoli Caerdydd>Proffiliau Staff>Alexia-Mary-Tzortzaki

Dr Alexia Mary Tzortzaki, MBA, Ph.D., MANLP

Uwch-ddarlithydd mewn Rheoli Adnoddau Dynol

Adran: Ysgol Reoli Caerdydd

Rhif/lleoliad swyddfa: O1.41.d

Rhif ffôn:029 20417288

Cyfeiriad e-bost: AMTzortzaki@cardiffmet.ac.uk

Trosolwg/bywgraffiad byr

​​Mae Alexia yn breuddwydio am gyd-greu Ysgol i Arweinwyr Ifanc – deorydd talent o Ddinasyddion Byd-eang Gweithredol.

Mae hi wedi sefydlu’r model Arweinyddiaeth a arweinir gan HEART™, fframwaith hyfforddi ar gyfer arweinwyr Cenhedlaeth Z, sy’n cael ei ddatblygu a’i brofi ymhellach ar hyn o bryd.

Cyn ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac am y 15 mlynedd diwethaf, bu Alexia yn Athro Cynorthwyol mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth ym Mhrifysgol Môr y Canoldir Hellenig ac yn aelod cyfadran atodol yn y Brifysgol Agored Hellenig yng Ngwlad Groeg. Mae ganddi Ddoethuriaeth mewn Rheoli Gwybodaeth, mae'n Gyfryngwr Achrededig ac yn Hyfforddwr NLP Ardystiedig. Mae ei diddordebau addysgu ac ymchwil yn cynnwys arweinyddiaeth oes ddigidol a datblygu sgiliau meddal.

Mae ganddi hefyd brofiad helaeth o’r byd corfforaethol (13+ mlynedd), ar ôl gweithio fel Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu ar gyfer ystod amrywiol o gwmnïau yn y DU ac yng Ngwlad Groeg, gan gynnwys Wickes Building Supplies a National Britannia. Mae ei chyfrifoldeb cyllidebol wedi bod yn fwy na £500,000.

Cyn hynny, sefydlodd Alexia busnesau ei hun: ymgynghoriaeth datblygu busnes a chwmni hyfforddi. Mae hi'n awdur pum llyfr academaidd sy'n canolbwyntio ar reoli a marchnata. Ei llyfr diweddaraf yw 'Live Your Truth and Lead', y bu'n dysgu rhan ohono fel gweithdy i fyfyrwyr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Amrita, Kerala, India.

Mae pwrpas ei bywyd i'w weld yn www.ArtofJoy.gr/cy

Addysgu.

​​Cyrsiau iIsraddedig ac Ôl-raddedig mewn Rheoli a Rheoli Adnoddau Dynol.

Ymchwil

​​Meysydd disgyblu o ddiddordeb:

  • Addysg Uwch
  • Dulliau Addysgu
  • Arweinyddiaeth Addysgol
  • Arweinyddiaeth Dosturiol
  • Hunan-Arweinyddiaeth
  • Adnoddau Dynol
  • Rheoli Gwybodaeth
  • Economeg Werdd
  • Astudiaethau Sefydliadol
  • Niwroseicoleg
  • Cyfathrebu Rhyngbersonol
  • Gwyddor Ymddygiad

Cyhoeddiadau allweddol

​​Tzortzaki, A.M., Seage, H. and Fairchild, R., 2023. Nutrition, Self-Leadership and Compassion, AMI Conference, May 2023, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Tzortzaki, A.M., 2022. Developing compassionate self-leadership: a conceptual framework for leadership effectiveness in the digital age. Journal for Global Business Advancement, 15(3),tt.272-296.

Tzortzaki, A.M. and Tsourdalakis, K., 2014. Building competitive advantage through innovation: a case study from the food industry. International Journal of Decision Sciences, Risk and Management, 5(4), tt.350-375.

Tzortzaki, A.M. and Mihiotis, A., 2014. A review of knowledge management theory and future directions. Knowledge and Process Management, 21(1), tt.29-41.

Mary Tzortzaki, A. and Mihiotis, A., 2012. A three-dimensional knowledge management framework for hospitality and tourism. Foresight, 14(3), tt.242-259.

Prosiectau a gweithgareddau eraill

​​Teitl ei chyflwyniad yn 83ain Cyfarfod Blynyddol yr Academi Rheoli yn Boston, UDA, cynulliad blynyddol mwyaf y byd o ysgolheigion rheolaeth yn y byd (Awst 2023) oedd: Workers of the future: Is aligning a self-led life to work purpose the solution to worker engagement?’

Ar hyn o bryd, datblygu a phrofi ymyriad amlochrog 'Ymwybyddiaeth Ofalgar-Gweithgarwch Corfforol mewn Natur' sy'n cynyddu effeithiolrwydd arweinyddiaeth. (Arweinydd Tîm Ymchwil).​

Dolenni allanol