Trosolwg
Strategaeth Ymchwil a Chynllun Gweithredol
Mae Ysgol Reoli Caerdydd yn cynnig cynllun ymchwil gweithredol clir a chydlynol sydd â'r nod o gyflawni allbynnau ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol drwy ddatblygu canolfannau ymchwil sy'n perfformio'n dda gan arwain at gymhwyster REF 2021 cryf yn ogystal â gwella'r cwricwlwm trwy gyfrwng addysg a arweinir gan ymchwil.
Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 diweddaraf, cafodd 100% o effaith ymchwil Ysgol Reoli Caerdydd ei chydnabod yn rhagorol yn rhyngwladol, gan ddangos cyfredolrwydd ac effaith gadarnhaol ein hymgysylltiad â busnesau, y llywodraeth a chymdeithas.
Ystyriwyd 93% o'r gweithgarwch ymchwil a gyflwynwyd i'r Uned Asesu Busnes a Rheoli o ansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol ac ystyriwyd 89% o'r allbynnau ymchwil o ansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol neu uwch o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd.
Nod Cynllun Ymchwil Gweithredol Ysgol Reoli Caerdydd:
Bydd Ysgol Reoli Caerdydd yn ysgol a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer ymchwil rheoli sy'n ymroi i ddatblygu strategaethau arloesol ac atebion ymarferol sy'n mynd i'r afael â phroblemau busnes sy'n wynebu sefydliadau wrth reoli'r gadwyn fusnes o'r dechrau i'r diwedd.
Bydd yr ysgol, drwy ei chanolfannau/grwpiau ymchwil, yn lledaenu gwybodaeth, atebion a strategaethau newydd ar gyfer busnesau a diwydiant sy'n deillio o waith ymchwil a gweithgareddau masnachol ar ffurf cyhoeddiadau a chyflwyniadau ysgolheigaidd sy’n targedu ymarferwyr, deunyddiau addysgu ac astudiaethau achos er mwyn hysbysu partneriaid y cwricwlwm a'r diwydiant.
Amcanion
Amcan 1 - Meithrin enw da yn rhyngwladol am ymchwil ym meysydd busnes a rheoli sy'n cael ei lywio gan ymchwil feintiol ac ansoddol o'r radd flaenaf a datblygiad technolegol.
Amcan 2 - Cefnogi a meithrin gallu a galluogrwydd staff ymchwil
Amcan 3 - Sicrhau ansawdd a gyfoethogir ac allbwn ymchwil parhaus
Amcan 4 - Cynnal gwaith ymchwil cymhwysol drwy ganolbwyntio ar gryfderau ac arbenigedd staff drwy raglenni ymchwil cynhyrchiant uchel
Amcan 5 - Meithrin mwy o gysylltiadau gyda chwmnïau/sefydliadau a datblygu rôl Ysgol Reoli Caerdydd fel symbylydd syniadau a dulliau arloesol er mwyn cefnogi cynaliadwyedd a thwf busnesau.