Ysgol Reoli Caerdydd>Menter>Darlith Flynyddol y Fforwm 2017

Darlith Flynyddol y Fforwm 2017

Cymru - y dyfodol ar ôl Brexi


Dydd Llun 27 Tachwedd 2017, 6: 30pm ar gyfer cychwyn am 7pm (darlith 45 munud / Holi

ac Ateb)

Darlithfa 01:01 Llawr Gwaelod, Ysgol Reoli Caerdyd

TI archebu, e-bostiwch: csm-enterprise@cardiffmet.ac.uk

Mae'r Fforwm yn gydweithrediad rhwng Ysgol Reoli Caerdydd, Kilsby Williams, Berry Smith, Santander Corfforaethol a Masnachol ac Effective Communication ac mae'n darparu darlith gyhoeddus flynyddol a Chlwb Brecwast Busnes trwy wahoddiad yn unig gyda siaradwyr gwadd sy'n cwrdd dair gwaith y flwyddyn.

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru



Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

First MinisterGanwyd Carwyn Jones yn 1967 ac fe’i addysgwyd yn Ysgol Gyfun Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr, Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac Ysgol y Gyfraith Inns of Court, Llundain. Cyn ei ethol, roedd yn fargyfreithiwr mewn siambrau yn Abertawe gan arbenigo mewn Cyfraith Troseddol, Teuluol ac Anafiadau Personol ac yn diwtor proffesiynol yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd. Bu'n Gynghorydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac roedd yn Gadeirydd Grŵp Llafur Cyngor Bwrdeistref y Sir. Mae hefyd yn aelod o UNISON ac Unite the Union, yr RSPB a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae wedi bod yn aelod o'r Blaid Lafur er 1987 ac wedi chwarae rhan weithredol yn yr ymgyrch 'Ie dros Gymru'.

Penodwyd Carwyn Jones yn Ddirprwy Ysgrifennydd ym mis Mawrth 2000 ac fe’i penodwyd yn Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ar drothwy Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf 2000. Ym mis Mawrth 2002 ychwanegwyd rôl y Gweinidog Busnes at ei bortffolio Materion Gwledig. Ym mis Mehefin 2002 fe'i penodwyd yn Weinidog Llywodraeth Agored ac ym mis Mai 2003 fe'i penodwyd yn Weinidog yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad. Ym mis Mai 2007 fe'i penodwyd yn Weinidog Addysg, Diwylliant a'r Iaith Gymraeg ac o fis Gorffennaf 2007 fe'i penodwyd yn Gwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ.

Yn dilyn ymddeoliad Rhodri Morgan AC, fe’i penodwyd yn Brif Weinidog Cymru ar 9 Rhagfyr 2009 ac fe’i penodwyd i’r Cyfrin Gyngor ar 9 Mehefin 2010. Yn dilyn Etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai 2016 fe’i hailbenodwyd yn Brif Weinidog Cymru. Ymhlith ei ddiddordebau mae chwaraeon, darllen a theithio. Mae'n siaradwr Cymraeg rhugl. Mae'n swyddog Urdd Sant Ioan ac yn Feistr ar y Fainc yn Gray's Inn.


Forum Annual Lecture 2017 Forum Annual Lecture 2017