Mae'r radd MSc Rheoli Marchnata Ffasiwn ym Met Caerdydd yn gwrs deinamig a chyffrous sy'n cyfuno egwyddorion ffasiwn, marchnata a rheoli i'ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant ffasiwn byd-eang. Nod cyffredinol y rhaglen yw datblygu marchnatwyr ffasiwn sy'n gallu rhedeg ac integreiddio'n llwyddiannus ar lefel reoli mewn ystod eang o sefydliadau ffasiwn ac amgylcheddau marchnata.
Bydd y cwrs yn ddelfrydol ar gyfer graddedigion sy'n cael eu hysgogi gan yr awydd i lansio neu ddatblygu gyrfa bresennol yn y diwydiant ffasiwn. Yn ganolog i'n gradd MSc mewn Rheoli Marchnata Ffasiwn yw'r cyfle i integreiddio theori marchnata gydag ymarfer ac egwyddorion, yn enwedig mewn perthynas â'ch anghenion gyrfa eich hun.
Byddwch yn cael mewnwelediad beirniadol i anghenion a dyheadau defnyddwyr ffasiwn, yn deall pwysigrwydd marchnata brand mewn ffasiwn a chwmpas rhyngwladol y diwydiant ffasiwn. Byddwch yn archwilio agweddau megis prynu a marchnata ffasiwn gan gynnwys rhagfynegi tueddiadau, rheoli'r gadwyn gyflenwi a rhagweld ffasiwn.
Byddwch yn darganfod y grefft o gyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o gwsmeriaid ffasiwn gan ddefnyddio dulliau digidol a thraddodiadol. Yn olaf, byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth i greu strategaethau marchnata, gan ganolbwyntio ar bob lefel o'r diwydiant, o ffasiwn cyflym i frandiau moethus.
Mae cyflawni hyn oll yn golygu bod ein dull o addysgu yn mynd y tu hwnt i gyflwyno set o ddamcaniaethau ac egwyddorion marchnata i chi. Yn hytrach, mae'n ymestyn i chi allu gwerthuso defnyddioldeb y damcaniaethau a'r egwyddorion hyn yn ymarferol drwy ddefnyddio astudiaethau achos a phrosiectau 'byw'. Credwn y bydd y rhaglen hon yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i ragori yn y diwydiant ffasiwn drwy gael y mewnwelediadau, yr addysg a'r ddealltwriaeth feirniadol sydd eu hangen i weithredu mewn diwydiant byd-eang deinamig sy'n newid yn barhaus.