Ysgol Haf Gwyddor Bwyd Rhithiol AM DDIM

Oes gennych chi fyfyrwyr blwyddyn 10 - 13 sydd â diddordeb mewn bwyd a gwyddoniaeth ac am ddarganfod mwy am fywyd prifysgol?

14eg Gorffennaf 2021, 9am - 3.30pm

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnal ysgol haf undydd rhithiol am ddim i fyfyrwyr blwyddyn 10 - 13 sydd am ddarganfod mwy am astudio Gwyddor Bwyd.

Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai byr, cyflym trwy gydol y dydd, ac yn:

• Ennill dealltwriaeth o wyddor bwyd a'r gyrfaoedd sydd ar gael
• Dysgu mwy am gyrsiau gwyddor bwyd
• Clywed gan fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr am fywyd myfyriwr
• Cymryd rhan mewn gemau a gweithgareddau

Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael felly a wnewch chi ddewis myfyrwyr fydd yn elwa fwyaf.

Noddir yr ysgol haf gan IGD. Mae’r ysgol haf am ddim i'r holl gyfranogwyr.

Gall myfyrwyr wneud cais i gymryd rhan yma: https://forms.gle/CbyThmAqyPErk7RS7

Cymhwyster

Rhaid i fyfyrwyr fod:

• Ym Mlwyddyn 10 - 13
• Yn astudio pwnc gwyddoniaeth berthnasol neu fod â diddordeb mewn gwyddor bwyd
• Bod yn barod ac yn gallu mynychu pob sesiwn ar 14eg Gorffennaf rhwng 9am - 3.30pm
• Gael gliniadur gyda chamera a meicroffon
• Bydd sesiynau'n rhedeg dros Zoom



      
Canolfan y Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE   
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Rhodfa’r Gorllewin, Llandâf, Caerdydd CF5 2YB