Mae ymchwil yn yr adran Seicoleg Gymhwysol yn canolbwyntio ar gwestiynau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau beunyddiol pobl. Pryder allweddol yw deall seicoleg sylfaenol newid ymddygiad, gyda'r nod o sicrhau newid cadarnhaol drwy ymchwil gymhwysol. Mae ein hymchwil yn ymwneud â deall a hyrwyddo lles dynol. Gellir cymhwyso hyn i ystod o ymddygiadau megis: ymlyniad cleifion â meddyginiaeth; rhagnodi effeithiol a diogel gan ymarferwyr clinigol; arferion iechyd a lles yn y gweithle; defnyddio sylweddau; ymarfer corff a bwyta'n dda, yn ogystal ag ymddygiadau cyhoeddus eraill yn ymwneud â ffordd o fyw.
Mae ein hymchwil yn ymwneud â newid unigol a chymdeithasol. Mewn lleoliadau fforensig, mae ymchwil wedi archwilio ffactorau sy'n ymwneud ag ymddygiadau troseddol, gan ystyried ffactorau achosol mewn trosedd a materion iechyd meddwl ac effeithiolrwydd triniaeth. Mae ymchwil i'n harfer fel addysgwyr wedi archwilio canfyddiadau myfyrwyr o'u hyder academaidd ac wedi edrych ar faterion dargadw myfyrwyr, lles a phrofiadau yn nhirwedd newidiol addysg uwch. Mae ein hymchwil hefyd yn canolbwyntio ar broses sylfaenol meddwl a gweithredu dynol. Mae astudiaethau wedi archwilio effeithiau gwrthdyniadau gweledol a chlywedol yn ogystal â rôl emosiwn mewn prosesau gwneud penderfyniadau.