Mae'r thema ymchwil hon yn dwyn ynghyd arbenigedd amlddisgyblaethol gan Weithwyr Proffesiynol Iechyd, Gwyddonwyr Biofeddygol, Gwyddonwyr Amgylcheddol a Seicolegwyr Cymhwysol. Mae ymchwil o fewn y thema hon yn ymdrin â dod o hyd i ffyrdd mwy effeithiol o reoli ystod eang o risgiau sy'n dylanwadu ar iechyd a lles pobl. Mae ein gwaith yma yn mynd i’r afael ag amlygiad i beryglon amgylcheddol, risgiau diwydiannol, ymddygiadau iechyd, trosedd a phrosesau diagnostig, yn ogystal â chlefydau heintus ac anhrosglwyddadwy.