Cwestiynau Cyffredin - Seicoleg Fforensig (Rhaglen Ymarferydd) - Diploma Ôl-radd (PgD)

Sawl diwrnod y bydd angen i mi fod yng Nghaerdydd?

Mae'n dibynnu ar y myfyriwr a'i anghenion, ond fel arfer rhwng 12-15 diwrnod yma. Mae'r gweddill ar leoliad.

A oes angen i mi gael lleoliad yng Nghaerdydd neu yng Nghymru?

Nac oes - mae gennym fyfyrwyr ledled y DU sy’n astudio gyda ni.

A allai ddod â gwaith o lwybr hyfforddi arall i’r llwybr yma?

Gallwch - cyhyd â'i fod wedi'i asesu a'i basio o lwybr hyfforddi arall a gymeradwywyd gan HCPC mewn Seicoleg Fforensig. Enw'r broses yw Cydnabod Dysgu Blaenorol ac mae'n golygu y gallwch wneud cais am gredydau tuag at eich astudiaeth gyda ni am waith sydd wedi'i basio gan ddarparwyr addysg eraill. Os y gwnewch chi hyn, mae'n debygol y bydd y lleiafswm cyfnod astudio yn cael ei leihau i chi er mwyn cydnabod y gwaith yr ydych wedi'i gyflawni eisoes. Asesir ceisiadau am hyn yn unigol ac nid yw'n bosibl mewn gwirionedd i ni ddweud pa mor hir y bydd y rhaglen yn ei chymryd i chi - gan fod hyn yn dibynnu ar ba mor gyflym y gallwch ddarparu tystiolaeth o'r cymwyseddau sy'n weddill.

A oes angen i mi drefnu lleoliad cyn i mi wneud cais?

Nac oes - gallwn eich helpu gyda lleoliadau gyda'n sefydliadau partner ond mae angen i chi ddarparu geirda gan seicolegwyr fforensig sydd wedi arsylwi ar eich gwaith, felly mae angen profiad arnoch mewn lleoliadau fforensig. Rydym yn awgrymu o leiaf flwyddyn mewn rôl cynorthwyydd seicolegol neu hyfforddai - ond mae hyn yn amrywio yn ôl profiad myfyrwyr a lleoliad.

A fydd fy ngwaith yn dderbyniol fel lleoliad?

Os ydych yn cael eich cyflogi fel seicolegydd fforensig dan hyfforddiant, yna mae'n debygol y bydd eich rôl yn dderbyniol fel lleoliad. Os nad ydych, mae'n debygol y bydd angen lleoliad ychwanegol arnoch er mwy sicrhau eich bod mewn sefyllfa i fodloni cymwyseddau'r rhaglen. Er mwyn i leoliad gael ei gymeradwyo mae angen seicolegydd fforensig cofrestredig sy'n barod i oruchwylio'r myfyriwr, gydag ystod eang o brofiad sy'n bosibl o'r rôl. Rydym yn ystyried lleoliadau yn fwy manwl ar ôl i ni gynnig lle ar y cwrs.

Pam eich bod yn cynnal canolfan asesu?

Rydym yn credu nad taith academaidd yn unig yw hyfforddi i fod yn seicolegydd fforensig, ond mae hefyd yn daith sy'n herio agweddau ar bersonoliaeth ymgeisydd a'i berthynas ag eraill. Gofynnwn i ymgeiswyr fynychu canolfannau asesu er mwyn i ni allu asesu eu sgiliau yn erbyn rhestr o gymwyseddau a thros ystod o weithgareddau. Rydym yn defnyddio'r ganolfan asesu i'n helpu i wneud penderfyniadau ynghylch cynnig lle ac i fwydo i mewn i drefniadau goruchwylio ar gyfer myfyrwyr.

Sut mae'ch llwybr yn wahanol i Gam 2 Cumdeithas Seicolegol Prydain (BPS)?

Mae ein llwybr yn cadw dull prentisiaeth Cam 2, ond nid ydym yn pwysoli’r gweithgareddau’n gytbwys fel y mae Cam 2 yn ei wneud. Rydym yn rhoi mwy o bwyslais ar rolau clinigol seicoleg fforensig (asesu, ymyrraeth, gwerthusiadau ac argymhellion gyda defnyddwyr gwasanaeth fforensig) ac rydyn ni'n pwysoli ein hasesiadau o'r rhain yn fwy na rydyn ni'n ei wneud gydag agweddau eraill fel ymgynghori neu addysgu a hyfforddi. Rydym hefyd yn disgwyl i fyfyrwyr allu defnyddio ymchwil i lywio eu hymarfer fel bod ymchwil yn cael ei hymgorffori yn yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn hytrach nac yn sefyll y tu hwnt i ymarfer. Mae ein llwybr yn cyfateb i Gam 2 ac yn darparu cymhwysedd ar gyfer gwneud cais i'r HCPC am ymarfer fel seicolegydd fforensig unwaith y bydd myfyrwyr wedi cwblhau eu hastudiaeth gyda ni.

Sawl cyfnod cofrestru sydd gennych chi bob blwyddyn?

Dau fel arfer; un ym mis Medi ac un ym mis Ionawr bob blwyddyn.

Faint o bobl rydych chi’n eu derbyn ar y rhaglen?

Nid oes gennym nifer penodol o leoedd bob blwyddyn. Yn hytrach, rydym yn asesu ymgeiswyr yn erbyn y cymwyseddau ac yn cynnig lleoedd yn seiliedig ar eu gallu. Os oes angen i ni gynyddu’r adnoddau i ateb y galw am y rhaglen, rydym yn gwneud hynny.