Mae Adran Gwyddor Bwyd Met Caerdydd yn cynnig addysg gynhwysfawr mewn un o ddau lwybr sy'n gysylltiedig â bwyd.
Gwyddor a Thechnoleg Bwyd (BSc & MSc) – o ddatblygu bwydydd newydd i astudio sut mae bwydydd yn effeithio ar iechyd, lles ac atal afiechydon. Gan ateb y galw cynyddol am arbenigedd gwyddor bwyd a thechnoleg ledled y byd, bydd ein graddedigion yn weithwyr proffesiynol gwyddor bwyd tra chymwys wedi’u paratoi'n drylwyr ar gyfer y diwydiant bwyd a'r cyhoedd.
Rheoli Cynhyrchu Bwyd (BSc) – o gysyniadau a datblygiad bwyd i gynhyrchu, rheoli ac arwain cwmnïau bwyd. Dyluniwyd y rhaglen radd newydd hon i sicrhau bod gan fyfyrwyr yr holl sgiliau angenrheidiol i arwain nid yn unig adran dechnegol neu ddatblygu o safon ond hefyd i reoli ac arwain cwmni cynhyrchu bwyd cyfan.
Cyrsiau
Israddedig
(Yn cynnwys mynediad trwy'r Sylfaen sy'n arwain at Wyddorau Iechyd)
Ôl-raddedig
Dysgwyr o Bell
Cyfleusterau
Cewch weld y cyfleusterau llawn sydd ar gael trwy'r Rhithdaith Zero to Five Food Industry Centre
Pluen yn het y ganolfan yw'r Ganolfan Diwydiant Bwyd sydd newydd ei hadeiladu, sy'n cynnwys cyfleusterau prosesu bwyd, ceginau profi a datblygu, ystafell werthuso synhwyraidd a chyfleusterau hyfforddi ar gyfer gwyddonwyr bwyd, dietegwyr a maethegwyr fel ei gilydd.
Mae Maethegwyr a Deietegwyr yn arbennig yn elwa o'r cyfle i ddatblygu sgiliau bwyd ymarferol fel amcangyfrif maint dogn a chynnwys maethol bwydydd nodweddiadol yn y ceginau ymarfer arbenigol.
Mae gan labordai gwyddoniaeth eraill, gan gynnwys y cyfleusterau microbioleg a dadansoddi cemegol a'r labordy ffisioleg chwaraeon, ystod eang o offer dadansoddol, sy'n eich galluogi i feistroli nifer o dechnegau at ddibenion ymchwil neu’n barod ar gyfer byd gwaith.
Ymchwil
Mae Grŵp Ymchwil Diogelwch a Maeth Bwyd yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei waith ym maes rheoli diogelwch bwyd, gan gynnwys datblygiadau HACCP, hylendid a dadheintio bwyd a safleoedd bwyd. Mae'r grŵp yn cynnwys microbiolegwyr, biocemegwyr, maethegwyr a seicolegwyr yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu dull cyfannol tuag at anghenion y diwydiant bwyd a'r defnyddiwr.
Mae gan y grŵp Ymchwil enw da mewn ymchwil i ymddygiad defnyddwyr (ar draws ystod o grwpiau demograffig ac oedran, gan gynnwys oedolion hŷn a gofalwyr plant ifanc a babanod), cynhyrchu bwyd a'r gadwyn gyflenwi bwyd. Mae gan y staff wybodaeth arbenigol mewn llawer o sectorau diwydiannol ac maent wedi ymgymryd â gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth helaeth, ynghyd â chysylltiadau SME cryf ac yn darparu ymchwil ymgysylltiedig gyda’u partneriaethau. Mae llawer o brosiectau a gweithgareddau ymgynghori yn cynnwys SME yng Nghymru a thu hwnt.
Mae'r Ysgol yn aelod o Campden BRI a'r Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Integreiddio Gwyddor Bwyd a Gwybodaeth Beirianneg i'r Gadwyn Fwyd (ISEKI).
Proffiliau Staff
Mae ein proffiliau staff yn cael eu diweddaru ar hyn o bryd a byddant ar gael yn fuan.