Mae Gofal Iechyd Cyflenwol yn rhan o ddull integredig o ymdrin ag iechyd a gofal iechyd. Yr her i therapyddion cyflenwol a darparwyr gwasanaethau meddygol prif ffrwd yw cydweithio i gynhyrchu gwell canlyniadau i gleifion a chleientiaid.
Mae'r cwrs Gofal Iechyd Cyflenwol BSc (Anrh) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnwys astudio tri dull corffwaith: tylino cyfannol; aromatherapi clinigol; ac adweitheg. Sicrheir safon broffesiynol o gorffwaith gan dri chorff proffesiynol: y Sefydliad Hyfforddi Tylino (MTI); Cymdeithas Adweithegwyr (AoR); Ffederasiwn Rhyngwladol Aromatherapyddion Proffesiynol (IFPA). Cydnabyddir bod y tri chorff proffesiynol yn allweddol yn eu maes.
Mae pwyslais cryf hefyd ar ddatblygu sgiliau ymchwil a chyfrannu at allu ymchwil yn y maes gofal iechyd cyflenwol. Er mwyn annog israddedigion ar y rhaglen, dyfernir gwobr i'r myfyriwr blwyddyn olaf sydd â'r traethawd israddedig gorau.