Cynnwys y Cwrs
Cwrs dan arweiniad Prosiect ydy MRes (C&D). Mae myfyrwyr yn nodi pwnc ymchwil ac mae cwestiynau yn adeiladu ar hynny, tra’n dysgu ystod o ddulliau ymchwil a thrwy brofi eu syniadau mewn cymuned gefnogol ond cadarn o artistiaid ac ymchwilwyr.
Mae’r cwrs yn cychwyn heb unrhyw ragdybiaethau am fan cychwyn prosiectau’r myfyrwyr na sut y byddai’r prosiectau yn datblygu a cheir meddwl agored am bosibiliadau arferion ymchwil creadigol ym maes Celf a Dylunio.
Ar y cwrs byddwch yn ymgyfarwyddo a chysylltu ag arbenigedd ymchwil blaengar y byd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Mae ystod ein hymchwil yn ymestyn dros yr empirig a’r gwyddonol i’r barddonol a’r damcaniaethol, gan dynnu ar y Celfyddydau, y Gwyddorau, y Dyniaethau a’r Athroniaethau.
Rydyn ni’n annog prosiectau sy’n ceisio gweithio mewn dull aml-ddisgyblaethol, cyd-ddisgyblaethol neu draws-ddisgyblaethol gyda disgyblaethau ymchwil eraill yn ogystal â gyda sectorau masnachol a chymunedol mewn cymdeithas yn unrhyw le'n y byd ac wrth gwrs gyda chanolfannau ymchwil eraill ar draws y Brifysgol ehangach.
Mae’r rhaglen yn para dros dri semester llawn amser a thros bum semester rhan amser. Cynhelir pob un o’r modiwlau achrededig am un semester:
- Semester 1 (Hydref) – Tiriogaethau Ymchwil
- Semester 2 (Gwanwyn) – Sgiliau Ymchwil
- Semester 3(Haf) – Canlyniadau Ymchwil
neu ar gyfer (myfyrwyr llawn amser yn unig) cynigir opsiwn.
- Semester 3 (Hydref) – Canlyniadau Ymchwil
Gall myfyrwyr llawn amser ddewis cynnwys egwyl yn ystod yr Haf ai peidio. Gall myfyrwyr ddefnyddio’r cyfnod hwn ar gyfer amser gyda’r teulu neu wyliau, ymchwil personol, profiad gwaith neu ddychwelyd i gyflogaeth.
Gall myfyriwr llawn amser sy’n cychwyn y rhaglen ym mis Hydref naill ai gwblhau‘r Medi canlynol (drwy parhau drwy fis Gorffennaf ac Awst, cyfnod o 12 mis) neu’r Rhagfyr canlynol (gan gymryd egwyl dros yr Haf, cyfnod o 18 mis).
Rhaid i fyfyrwyr y DU/UE hysbysu’r rhaglen a’r ysgol o’u bwriad cyn cychwyn y modiwl ‘Canlyniad Ymchwil’ yn semester tri. Rhaid i fyfyrwyr tu allan i’r DU /UE hysbysu’r Rhaglen, yr Ysgol a’r Swyddfa Ryngwladol cyn gwneud y cais cychwynnol am fisa.
Semester 1 ART7111 - Mae myfyrwyr yn cychwyn drwy astudio modiwl a luniwyd i’w harwain drwy syniad ymchwil a’i diriogaeth er mwyn datblygu eu gallu i ffocysu ac hefyd i ddatblygu eu hunan-hyder gydag ymchwil celf a dylunio yn ei amryfal ddulliau.
Addysgir y modiwl hwn yn fanwl a’i oruchwylio drwy gyfres o seminarau a gynhelir yn ysbryd haelioni deallusol agored a thrafod syniadau yn drylwyr. Erbyn diwedd y modiwl, bydd gan y myfyrwyr syniad clir o’u hymchwil, ei ymarferoldeb a’u lle yn y ‘diriogaeth’ sy’n datblygu.
Semester 2 - Mae myfyrwyr yn astudio modiwl arbenigol ar Sgiliau Ymchwil yn yr ail semester, a’u hymgorffori yn fwy trwyadl o fewn llwybr ymchwil.
Lluniwyd yr hyfforddiant ar sgiliau ymchwil y mae’r rhaglen MRes (C&D) yn ei gynnig gan ystyried myfyrwyr o wahanol gefndiroedd. Er ei bod yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes â phrofiad o ymchwil mewn Celf a Dylunio, efallai fel israddedigion, lluniwyd y rhaglen i gynnwys cymuned ehangach fyd-eang.
Erbyn diwedd y modiwl bydd gan fyfyrwyr yr arbenigedd ymchwil i fod yn sail i’w syniadau gyda dull ymchwilio clir yn ogystal â’r sgiliau i ystyried syniadau a data.
Semester 3 - Mae myfyrwyr yn cwblhau’r rhaglen drwy astudio modiwl terfynol a fydd yn eu galluogi i ddatblygu thesis ymchwil byr (ar ffurf testun i ategu corff o ymarfer a/neu destun) yn ogystal â chynnig drafft o gynnig cychwynnol cyffredinol am radd ym Met Caerdydd neu yn unrhyw Brifysgol arall.
Ar ddiwedd y modiwl, bydd gan fyfyrwyr syniad clir o’u darpar ddyfodol fel graddedigion ymchwil.
Semester 1 & 2 – Mae modiwl sengl di-gredyd yn cyd-redeg â’r modiwlau eraill, sy’n cynnig cyfres o seminarau ymchwil a syniadau.
Pennir cynnwys y modiwl hwn gan weithgaredd ymchwil staff Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Bydd staff a myfyrwyr PhD/DProf yn dewis cynnal cyfres o seminarau yn seiliedig ar eu hymchwil ym maes celf a dylunio ac a fydd yn gwahodd myfyrwyr i ymholi ymhellach, ar sail deunydd damcaniaethol a hanesyddol penodol.
Gwahoddir pob siaradwr i rannu eu gwaith ymchwil am 45 munud ac yn dilyn ceir 15 munud o Holi ac Ateb ac yna trafod yn anffurfiol.
Dysgu ac Addysgu
Lluniwyd y rhaglen i fod yn brofiad dysgu cyfoethog a thrylwyr i'r myfyrwyr, a’r cyfan gyda chymorth a chyfarwyddyd tiwtorialau personol. Mae’r cwrs yn un cydweithrediadol, yn ddeallusol hael a chefnogol gyda’r nod o gynnig cyfle i’r myfyrwyr adfyfyrio'n ddeallus a pharhaus, cyfle am astudiaeth a ffocws academaidd yn ogystal â chyfle am ystyriaeth ddamcaniaethol ac ymchwil ymholgar.
Bydd y rhaglen yn cynnwys pob math o ymchwil celf a dylunio dan gyfarwyddyd a thybiannol. Fe’i lluniwyd i alluogi darpar arbenigedd ddoethurol wrth ddatblygu arbenigedd ymchwil ym maes Celf, Dylunio a Phensaernïaeth.
Yn unol â dull yr Ysgol o fynd ati i ymchwilio, ni fydd y rhaglen yn gwahaniaethu’n benodol rhwng ‘theori’ ac ‘ymarfer’ fel dulliau ymchwil ond yn hytrach bydd ei dull o ddatblygu sgiliau ymchwil yn holistaidd, eang a chynhwysol – ac eto yn y pen draw yn drylwyr - dulliau a fydd yn troi o gwmpas y ffordd orau o ateb y cwestiwn ymchwil a nodwyd.
Gall myfyrwyr sy’n astudio’r rhaglen ddilyn ymchwil penodol a llwybrau ymarfer arbrofol dan arweiniad staff academaidd sydd â gyrfaoedd sefydledig a/neu ysgolheictod ac ymchwil o’r radd uchaf.
Addysgir y rhaglen yn gyfangwbl drwy seminarau ‘bwrdd crwn’ gyda chyfarfodydd goruchwylio personol. Mae’r seminarau hyn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu cynllun ymchwil a rhaglen ddysgu personol gyda goruchwyliaeth bersonol tuag at ganlyniad ymchwil creadigol a thrylwyr.
Mae’r dysgu hwn drwy seminar wedi’i gyfuno â’r cyflenwad ar-lein yn golygu y gellir astudio’r rhaglen yn hyblyg ar y campws a/neu o leoliad o hirbell.
Gallai myfyrwyr ddewis treulio’u hamser i gyd ar y campws neu o leoliad o hirbell a ffeirio rhwng y dulliau yn hawdd.
Asesu
Asesir pob modiwl a gredydir trwy 'bortffolio' sy'n cynnwys gwaith cwrs, gan gynnwys testun a chyflwyniad, viva-voce ac ymarfer os yw'n briodol ac fel y manylir yn nisgrifiad y modiwl, y llawlyfr a'r ddogfennaeth friffio.
Mae'r asesiad portffolio yn hanfodol i asesiad lefel Gradd Meistr mewn Celf a Dylunio ac mae'n fethodoleg hirsefydlog a ddefnyddir yn helaeth yn y maes hwnnw. Mae'r asesiad portffolio yn gyfarwydd i fyfyrwyr israddedig ac fe'i defnyddiwyd ers rhai blynyddoedd yn y rhaglenni eraill yn yr ysgol Celf a Dylunio ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn. Dyluniwyd yr asesiad portffolio gyda natur drawsddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol ymarfer ac ymchwil Celf a Dylunio mewn golwg. Mae ymchwil Celf a Dylunio fel arfer yn cyfuno deunydd testunol ag ymarfer creadigol mewn symiau amrywiol, yn unol â hynny mae'r asesiad portffolio yn cynnwys cyfuniad o:
- Testun academaidd
- Testun hapfasnachol
- Testun dan gyfarwyddyd (h.y. Cynnig Ymchwil)
- Ymarfer
- Viva Voce
- Cyflwyniad
- Arddangosfa
Nid yw'r eitemau hyn yn cael eu hasesu fel eitemau unigol ond fe'u cymerir fel corff o waith mewn un asesiad 'portffolio' i gyrraedd un marc crynodol. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw myfyrio ar yr hyn y mae'n angenrheidiol iddynt ei gyflwyno yn eu portffolio er mwyn cwrdd â'r canlyniadau dysgu a sicrhau yn eu viva voce y gallant gyfleu mewnwelediad beirniadol a dyfnder gwybodaeth yn y cysylltedd a'r cydlyniad rhwng y gwahanol fathau o destun-ymarfer-cyflwyniad-arddangosfa.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae cymwysterau ôl-raddedig mewn ymchwil Celf a / neu Ddylunio mae'r rhaglen hon yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer gyrfa mewn ymchwil greadigol, fel gweithiwr proffesiynol yn y celfyddydau sy'n ymgymryd ag unrhyw fath o ymarfer sy'n cael ei yrru gan ymchwil yn eu maes, neu i unrhyw un sy'n bwriadu mynd ymlaen i gwblhau PhD. neu DProf. Mae'r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau paratoi ar gyfer ymchwil ar lefel doethuriaeth mewn Celf a Dylunio neu i ddatblygu ystod o sgiliau ymchwil creadigol i wella eu celf neu ymarfer dylunio neu yrfa, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae'r MRes (A&D) yn gorffen gyda datblygu Cynllun Datblygu Ymchwil Personol. Bwriad hyn yw darparu tystiolaeth o Feistrolaeth myfyrwyr mewn ymchwil mewn Celf a Dylunio ynghyd â darparu dogfen a all fod yn ddefnyddiol wrth wneud cais am astudiaeth Ddoethurol yn y dyfodol mewn unrhyw Brifysgol
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Fel rheol mae angen gradd anrhydedd israddedig dda (2.1 neu uwch) ar gyfer mynediad. Fodd bynnag, croesewir ymgeiswyr sydd â phrofiad neu gymwysterau proffesiynol perthnasol a chânt eu hystyried yn unigol a bydd myfyrwyr sydd â gradd israddedig wannach gyffredinol ond sydd wedi dangos rhagoriaeth yn agweddau damcaniaethol Celf a Dylunio hefyd yn cael eu hystyried.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth eu bod yn rhugl i safon IELTS 6.5 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r
tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses Ddethol:
Ar ôl derbyn cais myfyriwr gellir eu gwahodd yn bersonol neu gan Skype (neu debyg) i gyfarfod byr gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen neu'r enwebai i drafod y rhaglen yn fwy manwl ac ystyried sut y bydd y rhaglen yn gweddu i'w cefndir a'u hanghenion yn y dyfodol.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i'r brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. Am wybodaeth bellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais.
Cyn gwneud cais, gofynnir i fyfyrwyr rhyngwladol (y rhai y tu allan i'r UE) gysylltu â Dr Fiaz Hussa:
fhussain@cardiffmet.ac.uki drafod y gweithdrefnau angenrheidiol mewn perthynas ag astudio gyda ni.
Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd o sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a/neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen Cydnabyddiaeth o Ddysgu.
Blaaenorol (RPL).
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/study/finance/Pages/default.aspx.
Ffioedd rhan-amser:
Codir y taliadau fesul Modiwl Unigol oni nodir yn wahanol: Is-raddedig = 10 Credyd; ÔLl-raddedig = 20 credyd. Yn gyffredinol, bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn cwblhau 60 credyd y flwyddyn ar gyfer astudiaethau Israddedig ac Ôl-raddedig; i gael gwir brisiad, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen yn uniongyrchol.
Cysylltu â Ni