Skip to main content
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd>Cyrsiau>Pensaernïaeth Fewnol - Gradd BA (Anrh)

Pensaernïaeth Fewnol - Gradd BA (Anrh)*

Ailfodelu, ailgynllunio, ac ailddyfeisio gofodau'r dyfodol.

Mae Penseiri Mewnol yn siapio'r gofodau rydym yn byw ynddynt, gan weithio i ddylunio amgylcheddau ymarferol, hygyrch, ysgogol a chynaliadwy. Drwy ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar bobl o ddylunio gofodau, byddwch yn gweithio i wella ansawdd, llesinat ac anghenion y rhai sy’n byw ynddynt ac yn rhyngweithio ynddynt.

Mae’r rhaglen yn eistedd o fewn yr adran Pensaernïaeth ac Amgylcheddau Cynlluniedig, ac yn elwa o gydweithio parhaus â Phenseiri, Dylunwyr Mewnol a Thechnolegwyr Dylunio Pensaernïol. Mae Pensaernïaeth Fewnol yn elwa o ymchwil flaengar ac arfer cymhwysol mewn dylunio cynaliadwy a chynhwysol.

Byddwch yn canolbwyntio ar addasu, ailddefnyddio, ailfodelu ac ychwanegu at ofodau sy'n bodoli eisoes. Gan ganolbwyntio ar gynaliadwyedd, byddwch yn archwilio dulliau o greu datrysiadau dylunio parhaol a thros dro. Bydd cyfleusterau cynhwysfawr yn sicrhau eich bod yn datblygu iaith bensaernïol greadigol a thechnegol gyfoethog, yn amrywio o fraslunio i efelychiadau ymgolli ddigidol llawn data.

Bydd eich arfer yn y stiwdio yn cynnwys theori feirniadol, archwilio, ac amrywiaeth o friffiau. Byddwch yn gweithio gyda diwydiant a’r sector ehangach i archwilio’r perthnasoedd rhwng lleoedd a gofodau, a gwerthoedd y cymunedau sy’n eu defnyddio. Byddwch yn ymchwilio i ddefnydd cyfrifol ac ystyriol o ddeunyddiau, strwythurau a gofodau, i gynnig atebion arloesol a soffistigedig i broblemau'r dyfodol. Fel rhan o'r radd hon, byddwch yn ymgymryd â phrofiadau dysgu rhyngddisgyblaethol sydd wedi'u cynllunio i'ch siapio i fod yn raddedig addasadwy yn yr 21ain ganrif.​

* Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ddilysiad ar ​gyfer mynediad Medi 2025. Rhaid i bob rhaglen newydd yn y Brifysgol gael ei dilysu, a'i ddiben yw sicrhau bod y rhaglen arfaethedig yn cyd-fynd â Chenhadaeth y Brifysgol a bod ei chynnwys yn adlewyrchu lefelau priodol o safonau ac ansawdd academaidd.​



​Cynnwys y cwrs

Blwyddyn Un

Stiwdio Dylunio Mewnol 1.1 - 40 credyd

Bydd y modiwl hwn yn datblygu gwybodaeth sylfaenol am y cysyniadau a'r egwyddorion sylfaenol sydd eu hangen i greu cynigion dylunio creadigol ac archwiliadol. Bydd myfyrwyr yn dysgu lleoli eu hymarfer creadigol o fewn tiriogaeth ehangach y ddisgyblaeth sy'n rhychwantu ailddefnyddio mewn modd addasol, adfywio, gofodau a lleoedd.

Trwy gydol y modiwl bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth ymarferol o brosesau dylunio priodol, y dadansoddiad beirniadol o'r ailddefnyddio mannau / safleoedd mewn modd addasol, cyfrifol a chynaliadwy yn ogystal a'r sgiliau cyfathrebu gweledol a llafar a ddefnyddir i gyflwyno cynigion dylunio.

Stiwdio Dylunio Mewnol 1.2 - 20 credyd

Mae'r modiwl hwn yn atgyfnerthu'r dysgu ar draws y modiwl stiwdio cyntaf ac yn dechrau diffinio

hunaniaeth myfyrwyr fel dylunydd mewnol neu bensaer mewnol. Cefnogir myfyrwyr i gymhwyso eu

gwybodaeth trwy archwilio, gweithredu a myfyrio beirniadol fel rhan o gynnig dylunio dan arweiniad y

myfyrwyr.

Bydd y prosiect hwn dan arweiniad y myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth a sgiliau myfyrwyr yn nisgyblaethau

Dylunio Mewnol a Phensaernïaeth Fewnol yn y drefn honno.

Hanfodion Ymchwil - 20 credyd*

Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau ymchwil academaidd craidd myfyrwyr gan gynnwys dod o hyd i ffynonellau, gwerthuso hygrededd, a dadansoddi gwybodaeth. Bydd yn darparu'r sylfeini a fydd yn galluogi​ myfyrwyr i feithrin eu hyder i gymryd rhan mewn trafodaethau damcaniaethol a deialogau sy'n seiliedig ar syniadau a fydd yn ofynnol trwy gydol eu hastudiaethau israddedig.

Dealltwriaeth Ryngddisgyblaethol - 40 credyd 

Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i egwyddorion gweithio Rhyngddisgyblaethol: gweithio ar y cyd, meddwl a myfyrio yn feirniadol. Bydd prosiectau o fewn y modiwl yn eich herio i weithio gyda disgyblaeth arall i archwilio thema neu her gymdeithasol a diwylliannol.​


Blwyddyn Dau

Stiwdio Pensaernïaeth Fewnol 2 - 40 credyd 

Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar roi dealltwriaeth drylwyr i fyfyrwyr o lwybrau posibl ym maes Pensaernïaeth Fewnol. Ei nod yw hybu hyder wrth annog y defnydd o ddulliau unigryw o fewn y ddisgyblaeth. Y nod yw meithrin agwedd broffesiynol cryf, gan fynd i'r afael â heriau yn y diwydiannau creadigol. Drwy gydol y modiwl, mae myfyrwyr yn datblygu hyder wrth archwilio eu hunaniaeth greadigol o fewn cyd-destun Pensaernïaeth Fewnol, gan lywio cyfyngiadau ymarferol yn y maes masnachol. 

Heriau'r 21ain Ganrif- 40 credyd 

Mae modiwl Heriau'r 21ain Ganrif yn adeiladu ar y cyflwyniad i ddatrys problemau Rhyngddisgyblaethol a ddatblygwyd ar lefel 4 i barhau i fireinio, a dechrau cymhwyso eich setiau sgiliau trwy brosiectau byd go iawn a briffiau byw. 

Bydd prosiectau'n mynd i'r afael â Heriau'r 21ain Ganrif i ddatblygu eich sgiliau arwain, cydweithio, llythrennedd/meddwl beirniadol yn y dyfodol. 

Cyd-destunau byd go iawn - 20 credyd 

Mae modiwl cyd-destunau byd go iawn yn eich herio i gymhwyso ymwybyddiaeth leol a sgiliau meddwl am y dyfodol i ddefnyddio'ch ymarfer eich hun i greu neu hyrwyddo gwerth ar gyfer amrywiaeth o randdeiliaid a chymunedau allanol. 

Cynnig Ymchwil – 20 credyd 

Mae’r Cynnig Ymchwil yn cynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau ymchwil, atgyfnerthu eich profiad ymchwil a llywio eich cyfraniad lefel 6 o amgylch ymholiad o’ch dewis sydd wedi’i ysbrydoli gan eich dysgu ar draws yr holl fodiwlau ar lefel 4 a 5.     

Defnyddir y cynnig ymchwil hwn i barhau â'ch datblygiad personol a phroffesiynol ar lefel 6 lle byddwch yn nodi llwybr ar gyfer eich ymholiad eich hun.

Blwyddyn Tri

Prif Brosiect - 60 credyd 

Nod y modiwl ‘Prif Brosiect’ 60 credyd hwn yw eich annog i adeiladu lefel uwch o arbenigedd deallusol a galwedigaeth eich ymarfer, tra’n eich gosod ar flaen y gad mewn disgyblaeth Pensaernïaeth Fewnol sy’n archwilio’n eang i ailddefnyddio, ailfodelu ac ehangu addasol o leoedd sydd eisoes yn bodoli. Mae'n rhoi cyfle i chi wella'ch ymarfer yn y stiwdio, tra'n profi eich gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau unigol mewn ymchwil ac ymarfer Pensaernïaeth Fewnol, mewn ymateb i gysyniad dylunio a briff yr ydych chi'n eu gosod i chi'ch hun.   

Wrth lywio'ch prosiect trwy'r camau dylunio o'r cysyniad, y cynllun, i'r canlyniadau cyfathrebu, byddwch yn deall yn well rôl y Pensaer Mewnol proffesiynol a'u cyfraniad i’r gymdeithas yn y cyd-destun ehangach; cynhyrchu manylion adeiladu tectonig, gwyddor defnyddiau a gwybodaeth ffiseg adeiladu; deall fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol; a'ch paratoi ar gyfer trylwyredd deallusol a strategol ymarfer proffesiynol. 

Darganfod eich Lle- 20 credyd

Nod y modiwl yw cefnogi eich parodrwydd i ddatblygu eich gyrfa broffesiynol unigryw mewn Celf Gemau. Bydd yn ymgorffori priodoleddau sy'n adlewyrchu gofynion ymarfer yn y byd go iawn sy'n cyd-fynd â'ch disgyblaeth arbenigol.

Byddwch yn cael y cyfle i fyfyrio ar sut mae eich profiadau dros y 3 blynedd diwethaf wedi caniatáu ichi osod eich hun fel gweithiwr proffesiynol wrth baratoi ar gyfer gwaith lefel graddedig, astudio parhaus, ymchwil, a mentrau entrepreneuraidd. 

Cyfraniad - 40 credyd

Mae eich ymarfer yn seiliedig ar eich gwybodaeth. Arddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad ymchwil terfynol, lle byddwch yn archwilio syniadau ar ffurf ysgrifenedig ac ymarferol. 

*modiwlau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg​

Dysgu ac addysgu

Mae'r holl raglenni o fewn YGDC yn cael eu cyflwyno trwy ddull dysgu yn y stiwdio. 

Mae dysgu yn y stiwdio yn darparu amgylchedd dysgu dilys sy'n meithrin adeiladu cymuned ar lefel carfan, dysgu gan gymheiriaid tra'n ddilys i ofynion y disgyblaethau unigol. Mae pob gofod stiwdio yn bwrpasol i anghenion y disgyblaethau lle bydd myfyrwyr yn derbyn amrywiaeth o gyfleoedd dysgu, gan gynnwys: 

Seminarau Grŵp, Beirniadaethau mewn Grwpiau a Chyflwyniadau, Tiwtorialau Un i Un, Gweithdai Technegol, Dysgu gan Gymheiriaid, Dysgu Annibynnol.

Yn ystod ei flwyddyn astudio gyntaf gall pob myfyriwr ddisgwyl derbyn rhwng 10 a 15 awr o amser cyswllt yr wythnos drwy ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau a gweithdai ymarferol. 

Mae myfyrwyr yn arwain eu hastudiaethau, yn datblygu eu ffocws ymchwil a'u sylfaen arbenigedd eu hunain ac yn ymgysylltu'n weithredol â'r broses asesu a'r modd y caiff eu harbenigedd unigol ei fynegi a'i brofi. 

Caiff myfyrwyr eu cefnogi gan eu bod yn gweithio'n annibynnol fel eu bod yn gallu cynhyrchu dysgu arwyddocaol ac unigryw drwy ymarfer trylwyr, hunan-gyfarwyddedig a chydweithredol.

​Asesu

Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:

Sgiliau:

Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.

Cyd-destun:

Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’u lleoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.

Syniadau:

Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn eich disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol. Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.

Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.

Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Ar ôl graddio gallech ddilyn gyrfa fel Pensaer Mewnol gan greu profiadau cryf a chofiadwy yn y sector preswyl, masnachol, cyhoeddus neu breifat, fel mannau byw, bariau, bwytai, mannau arddangos, neu weithio o fewn dyfodol dylunio cynaliadwy. Mae opsiwn hefyd i ddilyn astudiaethau ôl-raddedig pellach yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd.

Yn ystod y cwrs, bydd cyfle i ymgymryd â briffiau byw a phrofiad gwaith. Bydd hyn yn cynnwys meithrin cysylltiadau ac ymgymryd â lleoliadau yn ogystal ag amlygiad i weithwyr proffesiynol celf gêm trwy sgyrsiau a mentora diwydiant. Byddwch yn cael cynnig cymorth i ffurfio eich busnes eich hun os byddwch yn dewis gwneud hynny.

Mae rhai graddedigion yn dod yn athrawon trwy gymryd TAR, neu'n dewis parhau â'u hastudiaethau gydag​ YGDC trwy ddilyn cymhwyster lefel Meistr, neu i ymchwil gyda PhD neu Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf neu Ddylunio.​

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

Pwyntiau tariff: 96-120

Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol​.

TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.

Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.

Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.

Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DDM

Lefel T: Does dim angen pynciau penodol.

Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.

Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 24 pwynt. Does dim angen pynciau penodol.

Tystysgrif Gadael Iwerddon: Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.

Advanced Highers yr Alban: Does dim angen pynciau penodol.

Gofynion eraill: Cyfweliad ac adolygiad portffolio llwyddiannus. Bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno portffolio digidol.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ffioedd Dysgu, Cyllid Myfyrwyr a Chostau Ychwanegol

​I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar ffioedd dysgu a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael pan fyddwch yn y Brifysgol, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/study/finance/Pages/default.aspx.

Costau astudio i israddedigion yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Deunyddiau

Bydd yr Ysgol Gelf a Dylunio yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau sylfaenol. Bydd y rhain yn galluogi’r myfyrwyr i ddatblygu eu cymhwysedd mewn ystod o sgiliau ac i ddangos eu gallu technegol. Y myfyrwyr fydd yn bwrw’r gost am ddeunyddiau y bydd angen meintiau anghyffredin ohonyn nhw neu’r rheiny a fydd yn rhai arbenigol, drud neu anghyffredin. Rhoddir cyngor ynglŷn â sut y caiff ‘anghyffredin’ ei ddiffinio, pa ddeunyddiau y tybir eu bod yn ‘ddrud’, a rhoddir enghreifftiau o’r pethau a gaiff eu hystyried yn ‘anghyffredin’. Yn aml bydd myfyrwyr yr Ysgol Gelf a Dylunio yn dewis gwario’u harian ar ddeunyddiau y bydd yn well ganddyn nhw weithio gyda nhw, gan gynnwys llyfrau braslunio ac ysgrifbinnau, yn ogystal ag offer arbenigol o’u dewis nhw eu hunain.

Ni ofynnir am dâl am ddefnyddio cyfarpar ar wahân i rai peiriannau arbenigol o ben uchaf y farchnad megis argraffyddion Mimaki a 3D. Bydd mynediad i FabLab Caerdydd yn amodol ar aelodaeth myfyrwyr; bydd yn gostwng ffioedd i fyfyrwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am gostau ychwanegol cyrsiau, gan gynnwys ffioedd, gofynion cyfarpar a chostau eraill ar gyfer pob rhaglen israddedig, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/costaucwrsychwanegol.

Teithiau maes ac ymweliadau

Bydd yr Ysgol yn talu am deithiau maes a fydd yn rhan o’r dysgu craidd. Ambell waith trefnir ymweliadau a fydd yn opsiynol ac mae’n bosib y gofynnir i’r myfyrwyr rannu’r costau. Y myfyriwr unigol fydd yn gyfrifol am gostau astudio dramor, gan gynnwys cyfnewid, lleoliadau a phrosiectau.

Cysylltu â ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu ebost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Thiwtor Derbyn Pensaernïaeth Fewnol, Craig Thomas:

Ebost: crthomas@cardiffmet.ac.uk

Ffô​n: 029 2041 6147


Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Cwrs Allweddol

Cod UCAS:

K651​ – gradd 3 blynedd

Man Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd amser llawn. Pedair blynedd amser llawn os yn ymgymryd â lleoliad rhyngosod blwyddyn o hyd.​

CWRDD Â’R TÎM
Cwrdd â’r Tîm: Craig Thomas

Mae'r uwch ddarlithydd Craig Thomas yn trafod ei yrfa fel Dylunydd Mewnol / Pensaer Mewnol a sut mae'n defnyddio ei brofiad i helpu i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer y diwydiant.

Cwrdd â’r Tîm: Charlie Bull

Mae'r Arddangoswr Technegydd Charlie Bull yn trafod sut mae hi'n helpu ein myfyrwyr i ddod â'u syniadau'n fyw trwy ddylunio digidol a delweddu.

 

Stiwdios FfotograffiaethMae ein cyfleusterau ffotograffiaeth yn cynnwys tair stiwdio goleuo gyda fflach electronig, twngsten a goleuadau LED, ac ystafell dywyll wlyb ar gyfer prosesau ffotograffig traddodiadol.

Ewch ar daith rithwir

 

Gweithdai PrenMae ein cyfleusterau gwaith coed yn cynnig ystod lawn o offer gan gynnwys llifiau band, sanders, turnau pren, llifiau crwn a thrawstoriad a thrwchwyr planer.

Ewch ar daith rithwir

 

Gweithdai MetelMae ein Gweithdai Metel yn cynnig offer a chefnogaeth ar gyfer amrywiaeth o dechnegau, o brosesau castio efydd cwyr coll a weldio i waith gefail a llenfetel traddodiadol.

Ewch ar daith rithwir

Gellir dod o hyd i delerau ac amodau llawn mewn perthynas â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd drwy fynd i www.metcaerdydd.ac.uk/terms