Sesiynau’n dechrau eto: 04/09/2023.
Ar gyfer pwy? Bechgyn / Merched, 5+ oed.
Pryd? Gwybodaeth isod.
Lleoliad: Cae Hoci 3G, Campws Cyncoed.
Mae aelodaeth yn orfodol i fod yn rhan o’r Rhaglen Hoci Iau. Gweler fanylion pellach ar yr Ap Chwaraeon Met Caerdydd.
Sesiynau Dydd Mawrth:
Dim ond gydag Aelodaeth Hoci Iau Ddilys y gellir ei archebu.
Hoci Bechgyn dan 14 a dan 16
| 5.15pm - 6.15pm
|
Hoci Merched dan 16
| 5.15pm - 6.15pm
|
Sesiynau Dydd Gwener:
Dim ond gydag Aelodaeth Hoci Iau Ddilys y gellir ei archebu.
Hoci Cymysg dan 8
| 5pm - 6pm
|
Hoci Cymysg dan 10
| 5pm - 6pm
|
Hoci Bechgyn dan 12
| 5pm - 6pm
|
Hoci Merched dan 12
| 6pm - 7pm
|
Hoci Merched dan 14
| 6pm - 7pm
|
Mae ein Rhaglen Hoci Iau yn agored i blant o bob gallu ac yn adran iau gydnabyddedig un o glybiau hoci mwyaf Cymru, sef Clwb Hoci Caerdydd a Met.
Wedi'i leoli yn un o gyfleusterau hoci gorau'r DU, rydym yn cynnig cyfle i blant ddatblygu eu sgiliau hoci a thactegau o fewn amgylchedd dysgu hwyliog. Mae ein rhaglen Hoci Iau yn gosod timau i mewn i raglen Hoci Ieuenctid De Cymru o Dan 9 i Dan 15 ac maen nhw'n chwarae gwyliau a gemau rheolaidd trwy gydol y tymor.
Timau
Mae ein hacademi ar gael i’r grwpiau oedran canlynol:
Dan 9 oed (Blynyddoedd Ysgol 2 i 4) Dydd Sul 10:00 – 11:00am
Dan 11 oed (Blynyddoedd Ysgol 5 a 6) Dydd Sul 10:00 – 11:00am
Dan 13 oed Merched (Blynyddoedd Ysgol 7 ac 8) Dydd Mawrth 5:30 – 6:30pm
Dan 13 oed Bechgyn (Blyndyddoedd Ysgol 7 ac 8) Dydd Mawrth 6:30 – 7:30pm
Dan 15 oed (Blynyddoedd Ysgol 9 a 10) Dydd Mawrth 6:30 – 7:30pm
Mae’r academi hoci yn mynd a thimau i’r rhaglen Hoci Ieuenctid De Cymru at y grwpiau oedran canlynol ac yn chwarae gwyliau a gemau cyson trwy gydol y tymor.
Dan 9 oed cymysg (7 bob ochr)
Dan 11 oed merched (7 bob ochr)
Dan 13 oed merched (7 bob ochr)
Dan 15 oed merched (11 bob ochr)
Cysylltu â Ni
Am holiadau ynglŷn ag ein Hacademi Hoci Iau, cysylltwch â ni ar e-bost: hockeyacademy@cardiffmet.ac.uk
Mae gwybodaeth bellach i'w gweld ar Ap Chwaraeon Met Caerdydd neu fel arall gallwch gysylltu â derbynfa Chwaraeon Met Caerdydd ar 029 2041 6777.
Nawdd Hoci Iau - ISCA Dental
Mae Clwb Hoci Caerdydd a Met yn hynod o flach bod ISCA Dental wedi cytuno i gefnogi’r Rhaglen Hoci Iau. Mae ISCA Dental yn cynnig y safonau uchaf o ofal deintyddol i bob claf, ac yn credu’n gryf mai ataliad sydd orau. Gyda lles a diogelwch chwaraewyr ar y blaen o brofiad yng Nghlwb Hoci Caerdydd a Met a Chwaraeon Met Caerdydd, mae’r cyfle i weithio gyda ISCA i hysbysu diogelwch chwaraewyr yn ychwanegiad gwych i’r Rhaglen Ieuenctid. Mae ISCA Dental hefyd yn cynnig cyngor, orthodonteg, a thriniaethau cosmetig modern i wneud y mwyaf o'ch gwên ochr yn ochr â derbyn atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaeth y geg a gwaith deintyddol cosmetig gan bractisau deintyddol eraill, gan gynnwys mewnblaniadau / gwaith corun a phont, argaenau a gwynnu dannedd.
Os hoffech wybodaeth pellach, ymwelwch â https://iscadental.co.uk/