Academïau Chwaraeon

​​​Cardiff Met Sport Header Banner

Mae Chwaraeon Met Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o academïau chwaraeon i blant 5 oed a hŷn. Mae pob academi yn rhedeg dros gyfnod o wyth i ddeuddeg wythnos yn ystod y tri thymor ysgol.  Mae pob academi yn cael ei rhedeg o dan gyfarwyddyd ein hyfforddwyr chwaraeon cwbl gymwys (sydd wedi cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).

Mae Met Caerdydd yn gweithredu strwythur rhaglen o fewn y chwaraeon unigol. Mae'r strwythur hwn yn caniatáu datblygiad parhaus o fewn pob camp, o'r lefel sylfaenol hyd at ben elitaidd y sbectrwm.

Mae Chwaraeon Cymru wedi cydnabod ansawdd y rhaglenni datblygu hyn drwy ddyfarnu gwobr Sportsmatch i bob academi sydd wedi’i hanelu’n benodol at ddatblygu adran sylfaenol pob academi.​

Dyddiadau'r Tymor

​​Mae hwn yn canllaw yn unig; gall dyddiadau amrywio ar gyfer gwahanol academïau​:

  • Medi i Ragfyr

  • Ionawr i Fawrth

  • Ebrill i Fehefin


Gwybodaeth i Ymwelwyr

Gall y maes parcio ar Gampws Cyncoed fod yn brysur iawn. Rydym yn argymell gadael digon o amser i barcio eich car cyn cyrraedd ar gyfer gweithgaredd. Os bydd y prif faes parcio yn llawn, cofiwch fod y maes parcio gorlif hefyd ar gael. Mae cyfarwyddiadau i’r maes parcio gorlif i’w gweld yn y ddolen isod ynghyd â’r llwybr troed dynodedig o’r maes parcio i dderbynfa NIAC. 

Sicrhewch eich bod yn talu ac arddangos os ydych wedi parcio am fwy nag ugain munud. Nid yw'r peiriannau Talu ac arddangos yn derbyn Apple Pay neu Google Pay. Dewch â cherdyn neu arian i dalu am barcio.​



Cwblhau Cofrestriad Chwaraeon i B​lant ar yr Ap​

​​​​