Yn ystod y tymor, mae dros 2800 o blant (5 oed+) yr wythnos yn mynychu amrywiaeth o academïau chwaraeon a drefnir gan Chwaraeon Met Caerdydd. Rydym hefyd yn cynnal cyrsiau chwaraeon yn ystod gwyliau'r ysgol, ac yn ystod gwyliau'r Pasg a'r haf rydym yn cynnal Gwersylloedd Chwaraeon, gwersylloedd aml-weithgaredd i blant 4 - 14 oed.
Gan wneud defnydd llawn o'n cyfleusterau helaeth rydym yn annog plant i fod yn egnïol, i ddatblygu eu sgiliau ac i ryngweithio â ffrindiau, gan roi agwedd iach ac actif iddynt tuag at fywyd.
Rydym hefyd yn cynnal gwersylloedd haf chwaraeon penodol a fydd yn cael eu harchebu trwy Ap Chwaraeon Met Caerdydd.
Lawrlwythwch yr Ap Chwaraeon Met Caerdydd.
Dewiswch y botwm 'Gwybodaeth a Bwciadau'.
Dewiswch y gamp yr hoffech ei archebu.
Cliciwch y ddelwedd i archebu safle eich plentyn.
Crëwch broffil defnyddiwr yn enw eich plentyn (Dylai'r rhai sydd wedi archebu cyrsiau neu wersylloedd o'r blaen gael ID defnyddiwr yn barod).
Dilynwch y fideo i gwblhau cofrestriad chwaraeon iau eich plentyn: Cofrestriad Chwaraeon Iau - Sut i archebu trwy'r Ap - YouTube.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, yna cysylltwch gyda'r tîm ar 029 2041 6777.
Mae Chwaraeon Met Caerdydd yn cynnig ystod o wersylloedd chwaraeon yn ystod gwyliau'r Pasg a haf.
Mae Chwaraeon Met Caerdydd yn cynnig ystod helaeth o weithgareddau chwaraeon iau.
Dolenni Hanfodol
Aeloadaeth
Polisi Diogelu
Telerau ac Amodau
Hysbysiad Preifatrwydd