Stuart McNeil yw Pennaeth yr Adran Cyfrifiadura a Pheirianneg Gymhwysol, lle mae’n cefnogi tîm o academyddion sy’n ymchwilio ac yn dysgu mewn ystod o ddisgyblaethau o Beirianneg Electroneg a Roboteg i Ryngweithio Dynol- Gyfrifiadurol, Seiberddiogelwch, a Systemau Gwybodaeth. Fel Prif Ddarlithydd a Chadeirydd Grŵp Maes, mae’n rheoli datblygiad addysgeg feirniadol rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig yr adran.
Mae Stuart wedi addysgu ar fodiwlau Cyfrifiadura a Dylunio ers dros 20 mlynedd. Mae addysgu Cyfrifiadura Stuart yn canolbwyntio ar Ddylunio Rhyngweithio a Rheoli Peirianneg Meddalwedd. Mae wedi arwain datblygiad nifer o raglenni ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.
Mae Stuart yn Aelod Proffesiynol o Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (MBCS); Aelod o’r BCS, grŵp Rhyngwyneb Rhyngweithio Dynol-Gyfrifiadurol; Aelod o’r Gymdeithas Peiriannau Cyfrifiadura – Grŵp Diddordeb Arbennig; Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol er Hybu’r Celfyddydau, Gweithgynhyrchion a Masnach (FRSA) a Chymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA).