Ar hyn o bryd, mae Dr Rehmat yn gweithio fel Darlithydd (Athro Cynorthwyol) yn ysgol dechnolegau Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, y DU. Enillodd ei raddau B.S. ac M.S. mewn cyfrifiadureg o brifysgol COMSATS Islamabad, Pacistan, a'i radd Ph.D. mewn electroneg a pheirianneg gyfrifiadurol o Brifysgol Hongik, De Korea. Ar ôl cael gradd PhD bu'n gweithio fel Athro Cynorthwyol ym Mhrifysgol Gachon, De Korea. Yna symudodd i'r DU, lle cafodd ei brofiad ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol St Andrews, yr Alban, y DU a Phrifysgol Queen's, Belfast, Gogledd Iwerddon, y DU. Yn ystod y cyfnod hwn, bu'n gweithio ar brosiectau amrywiol ym maes Edge Computing, Edge Intelligence/Edge AI, Internet of Things a 5G gyda gwahanol ddiwydiannau megis Ericsson Hungary a Rakuten Mobile Japan.
Mae ei waith wedi ymddangos mewn mwy na 45 o bapurau ymchwil mewn cynadleddau a adolygir gan gymheiriaid a chylchgronau gorau megis
IEEE Communications Magazine,
IEEE Internet of Things journal,
IEEE Transactions on Network Science and Engineering,
IEEE Wireless Communications Magazine,
Journal of Network and Computer Applications, a Future Generation Computer Systems. Ar hyn o bryd mae'n dal pedwar patent, ac mae ei ddau batent yn yr Unol Daleithiau yn cael eu hadolygu.
O ran gwasanaeth proffesiynol, mae Dr Rehmat wedi gwasanaethu fel aelod o bwyllgor y rhaglen dechnegol, fel prif siaradwr ac fel cadeirydd sesiwn ar gyfer sawl cynhadledd flaenllaw megis ACM ICN, ACM IMC, ac fel adolygydd gwadd ar gyfer nifer o gyfnodolion effaith uchel. Yn 2022, adnabyddwyd Dr Rehmat fel Global Talent gan yr Academi Beirianneg Frenhinol, y DU. Mae mwy o wybodaeth ar gael o'i wefan bersonol yn
www.rehmatkhan.com