Skip to main content
Jemma Oeppen Hill

Jemma Oeppen Hill

Deon Cyswllt - Ymgysylltu â Myfyrwyr

Adran: Uwch Reolwyr

Rhif/lleoliad swyddfa: Ysgol Dechnolegau Caerdydd, Campws Llandaf

Rhif ffôn:

Cyfeiriad e-bost: joeppenhill@cardiffmet.ac.uk

Trosolwg/bywgraffiad byr

Dechreuodd Jemma Oeppen Hill ei gyrfa academaidd yn 2010. Cyn hyn, roedd ganddi rolau ym maes marchnata a rheoli cyfrifon ar gyfer sawl brand ffasiwn proffil uchel. O fewn y byd academaidd, mae hi'n angerddol am daith y myfyriwr a dyluniad cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr. Mae hi'n canolbwyntio ar adeiladu hunaniaeth a chymuned rhaglenni, gan ddod â diwydiant i'r ystafell ddosbarth ac asesiad dilys. Ar ôl ymuno â Met Caerdydd yn 2016 mae hi wedi bod yn Gyfarwyddwr Rhaglen yn YRC, yn gyfrifol am dyfu rhaglen BA (Anrh) Rheoli Marchnata Ffasiwn ac ers hynny mae wedi dylunio a dilysu MSc Rheoli Marchnata Ffasiwn ac ail BA (Anrh) mewn Prynu a Rheoli Brand Ffasiwn. Er 2019 mae wedi dal rôl secondiad fel Prif Ddarlithydd mewn Gwella Ansawdd o fewn y Gyfarwyddiaeth Gwella Ansawdd (CGA), cyn ymuno ag YDC fel Deon Cyswllt - Ymgysylltu â Myfyrwyr ym mis Mehefin 2021.

Addysgu.

Mae Jemma yn angerddol am dulliau addysgu arloesol ac ymgysylltiad myfyrwyr yn yr amgylchedd dysgu. Yn ei haddysgu mae wedi arwain ar fodiwlau ar draws y strwythur BA ac MSc - yn bennaf o fewn Marchnata Aml-Sianel, Rheoli Brand Ffasiwn Strategol, Cynaliadwyedd a Chyfrifoldeb mewn Ffasiwn ac Ymddygiad Defnyddwyr. 

Mae goruchwylio traethodau hir a phrosiectau terfynol bob blwyddyn bob amser yn daith gyffrous. Mae ffocws y goruchwyliaethau yn ymwneud yn bennaf â rheoli brand, defnyddio technoleg newydd ym maes marchnata a chyfathrebu ffasiwn, cynaliadwyedd a rheoli'r gadwyn gyflenwi a rhyngweithio â defnyddwyr yn y gofod manwerthu (rhithiol a chorfforol).

Ymchwil

Mae ymchwil Jemma yn canolbwyntio ar ddau brif faes, a'r cyntaf o'r rhain yw Arweinyddiaeth Addysgol. Mae ei gradd Doethuriaeth Addysg gyfredol yn canolbwyntio ar rôl cyfarwyddwr y rhaglen. O fewn hyn, mae’n archwilio cymhlethdod y rôl hanfodol hon ond sy'n aml yn cael ei chamddeall mewn Addysg Uwch a phwysigrwydd cefnogi'r rôl i sicrhau profiad cadarnhaol i fyfyrwyr. Ar hyn o bryd mae hi hefyd yn cynnal ymchwil i addysg reoli gynaliadwy, gan ganolbwyntio ar ymgorffori cynaliadwyedd yn y cwricwlwm ffasiwn. 

Mae ei ffocws arall ar rôl technoleg yn y diwydiant ffasiwn sy'n newid yn gyflym. Yn benodol archwilio hunaniaeth brand a chyfathrebu trwy bandemig COVID-19 (a thu hwnt) a phrofiad  'ffisegol-digidol’ y defnyddiwr.

Cyhoeddiadau allweddol

Cyhoeddiadau

Oeppen Hill, J. (2020) ‘Logos, Ethos, Pathos and the marketing of higher education’. Journal of Marketing in Higher Education. Cyfrol 30.https://doi.org/10.1080/08841241.2019.1683120

Oeppen, J a Jamal, A. (2014) Collaborating for success: managerial perspectives on co-‑branding strategies in the fashion industry, Journal of Marketing Management, Cyfrol 30, rhif 9-10, tt. 925 - 948. https://www.tandfonline.com/doi/abs/10.1080/0267257X.2014.934905


Cyflwyniadau cynhadledd

Oeppen-Hill, J a Dee, I (2018) ‘Transitioning into Fashion. Tales of a cross-school module designed to simulate industry practice’. Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol Prifysgol Metropolitan Caerdydd.  

Oeppen Hill, J (2018) ‘Selling the Dream? The Use of Rhetoric in the Communication of Fashion Marketing Degree Programmes’. Advances in Management and Informatics Conference. Caerdydd

Oeppen Hill, J (2017) ‘Marketing rhetoric as perpetuating (un)realistic expectations of the student customer’. 1st International Conference on Marketing (as) Rhetoric. Bournemouth.  

Oeppen, J (2015) ‘Celebrity Product Branding - A Multiple Perspective Case Study’ Academy of Marketing Doctoral Colloquium, Limerick.

Oeppen, J (2015) ‘Beyond Endorsement - A Case Study of Celebrity Brand Creation’. Academy of Marketing Conference, Limerick.

Oeppen, J (2014) ‘Celebrity Product Branding - A Multiple Perspective Case Study’ IMC 2014 ‑ International Marketing Conference, Edinburgh.

Oeppen, J a Jamal, A. (2013) ‘Collaborating for Success Managerial Perspectives on Co‑Branding Strategies in the Fashion Industry’. Academy of Marketing Conference, Caerdydd. (Papur a Ddyfarnwyd y Gorau yn y Trac am Hunaniaeth Brand ac Enw Da Corfforaethol)

Prosiectau a gweithgareddau eraill

Mae Jemma yn Aelod o'r Sefydliad Marchnata Siartredig (MCIM) ac mae'n aelod o Fwrdd Rhanbarthol Cymru fel Llysgennad Addysg. 

Rolau Arholwr Allanol yn India, yr Almaen a Llundain.

Cymrawd yr Academi Addysg Uwch.

Dolenni allanol