Dylai myfyrwyr sy'n ymuno ag un o Raglenni Partneriaeth Metropolitan Caerdydd, a addysgir
mewn Sefydliad y tu allan i Met Caerdydd, gyfeirio at Lawlyfr Myfyrwyr Met Caerdydd a'r
'Arweiniad i Fyfyrwyr sy'n Astudio mewn Sefydliadau Partner' ynghlwm. Bydd yr Arweiniad hwn yn
eich cyfeirio at adrannau o'r Llawlyfr Myfyrwyr sydd fwyaf perthnasol i chi.
Bydd myfyrwyr hefyd yn cael Llawlyfr Rhaglen gan y Sefydliad Partneriaeth y maent yn ei fynychu
a fydd yn cynnwys manylion llawn eu rhaglen, gwybodaeth am yr Ysgol y mae'r Rhaglen yn
perthyn iddi a manylion am gyfleusterau yn y Sefydliad Partneriaeth.
I gael gwybodaeth am ffioedd a llety, cysylltwch â'r Sefydliad Partneriaeth lle mae'r rhaglen yn
cael ei darparu.
Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at ein tudalennau Partneriaeth.