Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Newyddion>Cardiff Mets ZERO2FIVE Food Industry Centre one of three development partners of £21 million food innovation project

Canolfan diwydiant bwyd ZERO2FIVE Met Caerdydd yn un o dri o bartneriaid datblygu prosiect arloesi bwyd gwerth £21 miliwn

Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE y Brifysgol yn un o dair canolfan bwyd o Gymru sydd wedi datblygu prosiect HELIX Llywodraeth Cymru, rhaglen newydd £21 miliwn i gryfhau sector bwyd a diod Cymru a disgwylir iddo ddiogelu 2,000 o swyddi a chyflenwi dros £100 miliwn ar gyfer economi Cymru.

Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Canolfan Bwyd Cymru, sydd wedi'i lleoli yng Ngheredigion a Grŵp Llandrillo Menai yn ffurfio'r corff cydweithredol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Arloesi Bwyd Cymru (FIW).  Datblygodd FIW y prosiect HELIX i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer ymchwil i gynhyrchu bwyd, tueddiadau a gwastraff byd-eang i helpu gweithgynhyrchwyr bwyd bach a chanolig ledled Cymru i gynyddu cynhyrchiant a lleihau gwastraff.

Ariennir prosiect HELIX drwy'r Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP) a disgwylir iddo greu 370 o swyddi newydd, yn bennaf yng nghefn gwlad Cymru a'r Cymoedd, tra'n diogelu 2,000 arall dros y pum mlynedd nesaf.

Bydd y prosiect yn ystyried yr heriau a'r cyfleoedd newydd y mae'r diwydiant yn eu hwynebu, gan gynnwys penderfyniad y DU i adael yr UE.  Bydd y canlyniadau'n rhoi'r cyfle gorau i gynhyrchwyr Cymru dyfu a chael effaith economaidd.

Lansiwyd HELIX yn nigwyddiad Blas Cymru Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf lle'r oedd dros 100 o gynhyrchwyr Cymru yn arddangos y gorau o ddiwydiant bwyd a diod Cymru i dros 150 o brynwyr yn y DU ac yn rhyngwladol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
 "Rydym wedi gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer y diwydiant bwyd a diod er mwyn sicrhau twf o 30% erbyn 2020 ac rwy'n falch o ddweud ein bod yn bendant ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed hwnnw.  Prosiect HELIX yw'r cam nesaf ar y daith i sicrhau bod ein diwydiant bwyd a diod yn cael ei gydnabod yn fyd-eang am ansawdd, creadigrwydd a sgiliau."

Bydd y prosiect HELIX yn cefnogi gweithgynhyrchwyr bwyd dros y pum mlynedd nesaf mewn:

  • Arloesi – tracio’n gyflym gynhyrchion arloesol newydd a chwmnïau bwyd sy'n cychwyn
  • Effeithlonrwydd – helpu busnesau i leihau gwastraff wrth brosesu bwyd a thrwy hynny sicrhau arbedion costau a lleihau gwastraff
  • Strategaeth – ceisio sicrhau diwydiant o'r radd flaenaf drwy sgiliau uwch mewn meysydd allweddol, fel technoleg bwyd

Mae’r prosiect HELIX yn fenter uchelgeisiol sy’n adeiladu ar lwyddiant Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE a'r Ganolfan Technoleg Bwyd, oedd gan Goleg Menai gyda'r prosiect KITE blaenorol (Cyfnewidfa Technoleg Arloesi Gwybodaeth.) Rhaglen gan yr UE a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru oedd hon i hwyluso partneriaethau rhagweithiol rhwng busnesau bwyd bach a chanolig a graddedigion ac unigolion â phrofiad yn y diwydiant a Chanolfannau Bwyd Cymru.

Darparwyd dros 120 o raglenni trosglwyddo gwybodaeth yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, sydd wedi arwain at gynnydd yn y trosiant o £103 miliwn o fusnesau bwyd a diod yng Nghymru, gan greu dros 580 o swyddi a lansio dros 500 o gynhyrchion newydd i'r farchnad.

Mae'r ganolfan yn un o ragoriaeth, lle mae arbenigwyr yn cynnwys arbenigwyr a gafodd ganmoliaeth ryngwladol mewn Gwyddor Bwyd, Maeth, Dieteteg, Deddfwriaeth Bwyd, Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach, Datblygu Cynnyrch Newydd, Diogelwch Bwyd a Gwyddorau Biofeddygol. Mae llawer o'r gwaith ymchwil y maent yn ei wneud, fel prosiect HELIX, yn rhyngddisgyblaethol a chydweithredol rhwng Llywodraeth, diwydiant ac academyddion.

Dywedodd yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ac Is-gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:

 "Rydym am i'r diwydiant arloesi mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau, o wella safonau maeth a datblygu cynnyrch newydd mewn ymateb i heriau iechyd a llesiant i fanwerthu a thueddiadau'r farchnad.  Ein nod yw rhoi Cymru ar y map bwyd a diod byd-eang, ac i wneud hynny, bydd HELIX yn darparu lefelau uchel o gymorth fel adnabod pobl fusnes sydd eisiau buddsoddi neu gynghori gweithgynhyrchwyr bwyd ar safonau technegol a rheoliadau."

Dywedodd Martin Jardine, Rheolwr Canolfan Technoleg Bwyd Grŵp Llandrillo Menai, un arall o bartneriaid Arloesi Bwyd Cymru:

 "Mae effeithlonrwydd yn hanfodol i lwyddiant busnes, o fod yn fwy ymatebol i farchnadoedd sy'n newid, ymateb i heriau amgylcheddol fel lleihau milltiroedd bwyd a gwastraff bwyd, hyd at wneud y gadwyn gyflenwi yn fwy effeithiol.  Wrth feddwl am ffyrdd i fod yn fwy effeithlon ar bob cam o'r siwrnai bwyd a diod, rwy'n hyderus bod dyfodol disglair iawn i'r sector yng Nghymru."

Yn cwblhau’r bartneriaeth FIW mae Eirlys Lloyd o Ganolfan Bwyd Cymru yng Ngheredigion, Rheolwr Canolfan Technoleg Bwyd Grŵp Llandrillo Menai, a ychwanegodd:

 "Drwy fod yn fwy strategol, mae potensial enfawr i sector bwyd a diod Cymru wella a gwireddu ei dargedau twf uchelgeisiol.  Drwy'r prosiect HELIX byddwn yn helpu busnesau yng Nghymru i ddadansoddi eu gweithrediad cyfan a chynllunio'n strategol bob elfen, gan gynnwys gweithgynhyrchu diwydiannol, prosesu bwyd, ymgysylltu â'r cyhoedd a hyfforddiant a datblygu sgiliau."