Fy rôl yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
Rwy'n gweithio'n agos gyda'r tîm yn y Ganolfan Diwydiant Bwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i ddatblygu ymchwil ac arloesi ym meysydd diogelwch bwyd a rheoli ansawdd.
Rwy'n darlithio mewn sawl modiwl yn y rhaglenni gwyddoniaeth a thechnoleg bwyd ar y lefelau israddedig ac ôl-raddedig sef: rheoli argyfwng, diogelwch bwyd byd-eang, rheoli diogelwch bwyd; ac ansawdd, cyfansoddiad a labelu bwyd.
Mae fy niddordeb ymchwil yn canolbwyntio'n bennaf ar ddefnyddio dulliau amlddisgyblaethol o reoli ansawdd a diogelwch bwyd i liniaru pathogenau a gludir gan fwyd a deall deinameg arferion trin bwyd, twyll bwyd, a gwastraff yn y gadwyn fwyd. Yn y gweithgareddau hyn, rwy'n datblygu offer diagnostig, yn seiliedig ar safonau rhyngwladol a chenedlaethol, i ddatod deinameg y system gymdeithasol-dechnegol a sut maent yn effeithio ar ddiogelwch bwyd a chywirdeb bwydydd penodol.