Mae'r thema ymchwil Iechyd Cardiofasgwlaidd a Heneiddio yn cynnwys nifer o grwpiau ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae ein gwaith yn targedu sylfaen foleciwlaidd, patholeg gellog a ffisioleg glinigol afiechydon fasgwlaidd a niwroddirywiol. Mae ein hymchwil yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd a lles ein poblogaeth sy'n heneiddio. Mae'r thema Iechyd Cardiofasgwlaidd a Heneiddio hefyd yn gartref i Hyb Strôc Cymru, menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi a datblygu ymchwil, addysg ac arloesi Strôc ledled Cymru.