Mentrau Chwaraeon Ysgol

​​​​​​​

Mae Chwaraeon Met Caerdydd wedi sefydlu cysylltiadau cryf ag ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghaerdydd ac yn croesawu llawer o'r ysgolion hyn ac eraill o du allan i'r ardal ar gyfer eu diwrnod chwaraeon ysgol.

Yn ogystal, rydym yn darparu rhaglen nofio i ysgolion lleol ac yn cynnig cyfle i bob ysgol uwchradd ychwanegu at eu cyrsiau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol 'Safon Uwch' a 'TGAU' gyda'r bwriad o roi profiad ymarferol o brofion ffitrwydd maes a labordy.

Diwrnodau Chwaraeon Ysgol

Ydych chi wedi dewis dyddiad ond yn poeni am y tywydd? Oes gennych chi'r holl offer sydd eu hangen arnoch i sicrhau fod y diwrnod yn rhedeg yn  esmwyth? Wel, efallai y gallwn ni helpu. Mae'r Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol yn lleoliad delfrydol gyda thrac 200m 4 lôn, lle syth i sbrintio, ardaloedd taflu a mannau cystadlu ar gyfer yr holl neidiau, ac i'w wneud yn wirioneddol broffesiynol mae gennym system PA ragorol. Rydym yn cynnig naill ai sesiwn rhwng 9 am-12 canol dydd neu sesiwn rhwng 12.30pm-3.30pm.  Gallwn hefyd gynnig diwrnod llawn.

Diwrnodau Nofio Ysgol

Er mwyn helpu ysgolion i gyflawni eu gofynion nofio rydym yn cynnig defnydd unigryw o'n pwll nofio dan do.

Ar gael:

  • Pwll nofio 25 metr x 4 lôn gyda phen bas a dwfn.

  • Achubwyr bywyd cwbl gymwys.

  • Hyfforddiant nofio.

  • Amrywiaeth o gymhorthion dysgu - gan gynnwys fflôtiau, bandiau braich, cylchoedd deifio.

  • Cyfleoedd i weithio tuag at wobrau hyfedredd (os ydych chi'n archebu nifer o sesiynau).

  • Prisiau cystadleuol​.

Gwaith Allgymorth

Mae Cyfleusterau Chwaraeon Met Caerdydd wedi sicrhau nawdd i gefnogi ein rhaglenni iau, sy'n ehangu. Mae hyn wedi ein galluogi i ehangu'r cyfle i blant brofi rhai o'n cyrsiau trwy ddarparu hyfforddwyr i gymryd gwers neu ddefnyddio slot amser egwyl i hyrwyddo rhai o'n cyrsiau chwaraeon gan gynnwys athletau, criced, dawns, gymnasteg, pêl-rwyd, rygbi, pêl-droed a sboncen. Gall ysgolion drefnu ymweliad allgymorth yn ystod y tymor unrhyw bryd trwy gydol y flwyddyn.

Os hoffech chi gymryd rhan yn unrhyw un o'r uchod neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Donna Cadenne, Gweinyddwr Archebu ar 029 20416738 neu e-bostiwch sport@cardiffmet.ac.uk​.