Yn y micro-gwrs rhyngweithio â data am ddim, byddwch yn ennill y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnoch i weithio gyda data mewn senarios byd go iawn.
Yn agored i ddechreuwyr i wyddor data, mae'r cwrs yn ymdrin â chymwysiadau sylfaenol data mewn bywyd busnes bob dydd. Byddwch hefyd yn archwilio goblygiadau cyfreithiol, moesegol a chymdeithasol ehangach defnyddio data o ystod o gyd-destunau (fel data personol neu fusnes).
Erbyn diwedd y micro-gwrs, byddwch yn gallu cymhwyso ystadegau, fformiwlâu a thechnegau sylfaenol i ddatgelu a chyflwyno tueddiadau a phatrymau mewn data. Byddwch hefyd yn datblygu eich dealltwriaeth o'r ffordd orau o gyflwyno eich canfyddiadau yn seiliedig ar eich cynulleidfa.
Mae micro-gyrsiau yn gyrsiau byr hyblyg, wedi'u cyflwyno mewn fformatau cymysg ar-lein ac wyneb yn wyneb. Ar hyn o bryd maent yn cael eu treialu ar draws prifysgolion Cymru heb unrhyw gost i'r dysgwr. Gallwch fynychu micro-gwrs i uwchsgilio a dysgu rhywbeth newydd, fel llwybr i gyflogaeth, neu i gael blas ar bwnc penodol. Mae micro-gyrsiau technoleg ddigidol ym Met Caerdydd yn ymdrin â phynciau y mae galw amdanynt gan ddiwydiant. Cliciwch yma i weld y micro-gyrsiau eraill ym Met Caerdydd.