Skip to main content
Ysgol Dechnolegau Caerdydd>Cyrsiau>Technolegau Addysgol Micro-gwrs

Technolegau Addysgol Micro-gwrs

Bydd y meicro-gwrs rhad ac am ddim hwn yn eich cyflwyno i'r rôl y mae technolegau addysgol yn ei chwarae mewn addysgu a dysgu yn yr 21ain ganrif.  

Yn agored i bawb ond wedi'i anelu'n arbennig at y rhai sy'n gweithio yn y sector addysg, mae'r cwrs yn ymdrin â'r materion a'r heriau allweddol sy'n gysylltiedig â thechnoleg mewn addysg.  

Erbyn diwedd y micro-gwrs, byddwch yn gallu gwneud gwell defnydd o dechnolegau ar gyfer hyrwyddo creadigrwydd ar draws y cwricwlwm, tra'n cefnogi'r gwaith o gynllunio a chyflwyno dysgu ar-lein a dysgu cyfunol. 

Mae micro-gyrsiau yn gyrsiau byr hyblyg, wedi'u cyflwyno mewn fformatau cymysg ar-lein ac wyneb yn wyneb. Ar hyn o bryd maent yn cael eu treialu ar draws prifysgolion Cymru heb unrhyw gost i'r dysgwr. Gallwch fynychu micro-gwrs i uwchsgilio a dysgu rhywbeth newydd, fel llwybr i gyflogaeth, neu i gael blas ar bwnc penodol. Mae micro-gyrsiau technoleg ddigidol ym Met Caerdydd yn ymdrin â phynciau y mae galw amdanynt gan ddiwydiant. Cliciwch yma i weld y micro-gyrsiau eraill ym Met Caerdydd. 


Cynnwys y Cwrs

Bydd y micro-gwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddeg sesiwn 2 awr, sy'n cynnwys darlithoedd, gweithgarwch dysgu ar-lein, seminarau, gwaith labordy a gwaith grŵp bach. 

Mae'r pynciau'n cynnwys:

  • Cyflwyniad i dechnolegau addysgol. 
  • Byw a Dysgu mewn oes ddigidol: cymhwyso technoleg i ddysgu ac addysgu. 
  • Y rhaniad digidol: materion a dadleuon allweddol. 
  • Technoleg, creadigrwydd ac arloesedd ar draws y cwricwlwm. 
  •  Llythrennedd digidol neu gymhwysedd digidol?
  • Dysgu seiliedig ar gemau a chyfryngau cymdeithasol mewn addysg. 
  • Cyflwyniad i ddysgu ar-lein a dysgu cyfunol. 
  • Dylunio a datblygu dysgu ar-lein a chyfunol. 
  • Dylunio a datblygu dysgu ar-lein a chyfunol (rhan 2). 
  • VR ac AI – dyfodol addysg?

Gwaith Cwrs ac Asesiad 

Mae asesiadau wedi'u cynllunio i atgyfnerthu eich dysgu. Byddwch yn cwblhau dau asesiad byr drwy gydol y micro-gwrs. Mae'r rhain yn cynnwys blog myfyriol byr a chyflwyniad poster. Byddwch yn ysgrifennu tua 2,000 o eiriau.

Darllen a Awgrymir

Selwyn, M. (2011). Education and technology: Key issues and debates. London: Continuum. 

JISC. (2016). Curriculum design and support for online learning. 

Salmon, G. () Carpe Diem Learning Design. 

White, D. and Le Cornu, A. (2011). Visitors and Residents: A new typology for online engagement. 

Beetham, H. and Sharpe, R. (2007). Rethinking pedagogy for a digital age: designing and delivering e-learning. 

Race, P. (2020) The lecturer’s toolkit: a practical guide to assessment, learning and teaching. 

FutureLearn. (2021). Virtual Reality in Education: How VR is used in immersive learning.

Sut i Ymgeisio

Gallwch archebu eich lle ar y micro-gwrs Technolegau Addysgol ar Siop Ar-lein Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae’r lleoedd yn gyfyngedig, felly rydym yn argymell archebu’n gynnar i osgoi siom. 

Cysylltwch â ni 

I gael rhagor o wybodaeth am y micro-gwrs hwn, cysylltwch â Dr Fiona Carroll, FCarroll@cardiffmet.ac.uk  

Gwybodaeth Cwrs Allweddol

Man Astudio:
Ar-lein

Ysgol:
Ysgol Dechnolegau Caerdydd

Hyd y Cwrs:
5 wythnos (2 x sesiwn 2 awr yr wythnos).  Dydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 5yh a 7yh. 

Dyddiad dechrau:
15 Mawrth 2022-14 Ebrill 2022

Uchafswm Nifer:
20 o bobl

Cost:
Am ddim

Gellir dod o hyd i delerau ac amodau llawn mewn perthynas â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd drwy fynd i www.metcaerdydd.ac.uk/terms