Fy rôl yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
Gan adrodd i'r Cyfarwyddwr a gweithio gydag Uwch Dîm Rheoli Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE (FIC), rwy'n rheoli'r swyddogaeth gyllid yn y FIC. Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaeth cyfrifo ariannol a rheoli cynhwysfawr, o ansawdd uchel a manwl. Gan gysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, rwy'n sicrhau bod penderfyniadau gweithredol a strategol priodol yn cael eu gweithredu yn unol â rheoliadau a chanllawiau ariannol llym. Mae hyn yn sail i gynllun busnes cynaliadwy ar gyfer y FIC.