Fy rôl yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
Ym mis Mai 2021, cefais fy ngwobrwyo ag ysgoloriaeth Doethuriaeth gyntaf Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE i ymgymryd â phrosiect ymchwil Doethuriaeth, yn canolbwyntio ar bennu diwylliant diogelwch bwyd y sector lletygarwch ac arlwyo gan ddefnyddio data amser real a thechnoleg Deallusrwydd Artiffisial (AI) newydd.
Cydweithrediad amlddisgyblaethol yw’r prosiect ymchwil hwn rhwng Canolfan Diwydiant Bwyd (CDB) ZERO2FIVE (Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd), a Chanolfan Ymchwil Twristiaeth Cymru (Ysgol Reoli Caerdydd). Mae hefyd yn gydweithrediad amlwladol gyda Phrifysgol Canberra, Awstralia.
Effaith y ProsiectO ystyried y ffaith fod cyfran fawr o ddigwyddiadau clefydau a gludir gan fwyd yn gysylltiedig â sefydliadau gwasanaeth bwyd, mae angen tynnu rhagor o sylw at gefnogi a gwella diogelwch bwyd yn y sector hwn. Rhaid i agweddau sefydliadol megis arweinyddiaeth gref, cymhelliant, ymrwymiad, canfyddiad risg, agwedd bositif ac argaeledd adnoddau weithio’n gytûn i yrru’r diwylliant diogelwch bwyd yn ei flaen a sicrhau diogelwch bwyd.
- Felly, bydd yr ymchwil hon yn sicrhau dealltwriaeth wybyddol fanwl o’r diwylliant diogelwch bwyd mewn sefydliadau arlwyo yng Nghymru.
- Datblygir y technolegau Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Dysgu Peirianyddol (ML) i ganfod cydymffurfiaeth o ymddygiadau diogelwch bwyd penodol yn y sector gwasanaeth bwyd.
- Caiff mecanweithiau wedi’u targedu er mwyn gwella’r diwylliant diogelwch bwyd yn y sector gwasanaeth bwyd a lletygarwch eu datblygu a’u peilota.
- Bydd yr astudiaeth yn darparu’r mecanweithiau i wella gweithrediad ymddygiadau sy’n lleihau risg yn y sector gwasanaeth bwyd a lletygarwch a lleihau digwyddiadau o glefydau a gludir gan fwyd.
Y Tîm Goruchwylio- Dr Elizabeth Redmond, Uwch Gymrawd Ymchwil, Canolfan Diwydiant Bwyd, (Cyfarwyddwr Astudiaethau)
- Dr Ellen Evans, Cymrawd Ymchwil, Canolfan Diwydiant Bwyd, (Goruchwyliwr Academaidd)
- Dr Claire Haven-Tang, Deon Cyswllt (Ymchwil), Ysgol Reoli Caerdydd (Goruchwyliwr Academaidd)
- Dr Ambikesh Jayal, Prifysgol Canberra, Awstralia (Goruchwyliwr Academaidd)