Dunbia: Technolegydd NPD (Awst 2017 – Ebrill 2021)
Prosesydd cig premiwm yw Dunbia. Safle pecynnu manwerthu yw’r safle yn Cross Hands lle roeddwn i wedi fy lleoli sy’n cynhyrchu ar gyfer Manwerthwyr a Gwasanaeth Bwyd y DU. Cydlynais y broses datblygu cynnyrch o’r briff hyd at lansio (Proses Gatiau) gan gydymffurfio â deddfwriaeth Diogelwch Bwyd ar gyfer Sainsburys a Tesco. Wrth gefnogi gyda chyfrifon manwerthu a gwasanaeth bwyd eraill yn ôl yr angen: Asda, Morrisons, Lidl, Iceland, Amazon, JD Wetherspoon, Whitbread a Stonegate. Mae’r cynhyrchion yn cynnwys: Cig Ffres (Stêcs, Darnau o Gig ac Offal), Maluriedig (Briwgig, Byrgyrs, Peli Cig), Gwerth Ychwanegol, Sous Vide, Bwyd Parti a Danteithion Nadolig.
Mileeven Fine Foods: Rôl Gynhyrchu, Ansawdd, NPD a Marchnata. (Ionawr – Awst 2017)
Busnes teuluol yw Mileeven Fine Foods sy’n arbenigo mewn Mêl Gwyddelig 100% Pur a mêl amrwd un ffynhonnell o bob rhan o’r bryd, cyffeithiau a chynhyrchion Nadolig.
Knockdrinna Farmhouse Cheese
Roedd fy rôl yn amrywio rhwng yr Uned Cynhyrchu Caws, y Siop Fferm a’r Caffi (Mawrth 2012 - Medi 2014). Cynhyrchydd Caws Teuluol – Caws Geifr, Defaid a Gwartheg yn ogystal â Siop Fferm a Chaffi.
Fresh Finesse: Arddangoswr Siop Fwyd a Chanolfan Siopa. (Ionawr 2015 – Awst 2016)
Roeddwn i’n cynnal arddangosiadau bwyd ffres.
BSc (Anrh) Entrepreneuriaeth a Marchnata Bwyd
Astudiais “Entrepreneuriaeth a Marchnata Bwyd”, gradd Anrhydedd Baglor 4 mlynedd o hyd yng Ngholeg Prifysgol Corc (UCC). Roedd y cwrs hwn yn cynnig cyfuniad unigryw o fusnes a gwyddoniaeth. Mae’r rhaglen yn archwilio cymhwyso cysyniadau busnes a gwyddor bwyd i gefnogi rhagoriaeth fusnes. Yn debyg i Brifysgol Metropolitan Caerdydd, mae gan UCC enw da’n rhyngwladol mewn addysg ac ymchwil bwyd ac fe’i haddysgir gan ddarlithwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu maes arbenigedd.
Cyrsiau a Hyfforddiant Perthynol:
-
AHDB: Ansawdd cig, deall cymhlethdodau’r gadwyn gyflenwi cig eidion a chig oen.
- Diogelwch Bwyd Lefel 3 CIEH mewn Gweithgynhyrchu
- HACCP a Diogelwch Bwyd Lefel 2
- Gwobr Lefel 3 Highfield mewn HACCP ar gyfer Gweithgynhyrchu Bwyd (RQF)