Fy rôl yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
Ymunais â ZERO2FIVE yn 2022 a fy rôl yw rheoli gweithgareddau ymarferol a gweithredol y cyfleusterau’r ffatri beilot yn y Ganolfan Diwydiant Bwyd a chynnig cymorth technegol a gweithredol i fusnesau Cymru gyda'u systemau ansawdd a diogelwch bwyd, ac yn arbenigo mewn dylunio ffatri ac offer hylan.
- Cefnogi busnesau yng Nghymru i ddefnyddio'r cyfleusterau’r ffatri beilot gan eu galluogi i ddatblygu, profi a gwerthuso cynhyrchion newydd yn ystod y cam treialu, cyn ystyried cynhyrchu ar raddfa lawn.
- Cynnig cefnogaeth a throsglwyddo gwybodaeth wrth symud o dreial i gynhyrchu.
- Trosglwyddo gwybodaeth weithredol a thechnegol i gwmnïau bwyd yng Nghymru i adolygu eu prosesau, lleihau gwastraff a gwneud eu gweithrediadau yn fwy cynaliadwy.
- Cynnig cefnogaeth a throsglwyddo gwybodaeth i fusnesau sydd am sefydlu cyfleuster neu ffatri gynhyrchu newydd neu’n ystyried prynu offer newydd.
- Gweithio ar ystod o brosiectau technegol gyda busnesau yng Nghymru, o archwiliadau mewnol, adolygu a datblygu HACCP i gydymffurfio a hyfforddiant cyfreithiol. Gweithio gyda chwmnïau achrededig BRCGS, BRCGS Start a BRCGS.
- Darparu cyswllt rhwng y myfyrwyr a rhanddeiliaid allanol fel IFST, EHEDG ac IAFP.
- Llunio a chynnal gweithdai technegol a’u cyflwyno i fusnesau yng Nghymru e.e. Dylunio Glanwaith.
- Cynnal ymchwil diwydiant bwyd cymhwysol.
- Cefnogi'r tîm academaidd gyda darlithoedd a sesiynau ymarferol.
- Cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch.
- Cynrychioli Zero2Five mewn cynadleddau a digwyddiadau gan gynnwys cymryd rhan mewn rhai pwyllgorau trefnu.