Sharon Mayho

Sharon Mayho  

Sharon Mayho
Rheolwr Datblygu Systemau
E-bost: Smayho@cardiffmet.ac.uk
Yn ôl i'r Proffiliau

Fy rôl yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE

Fy rôl bresennol yn Uned Ymchwil Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yw gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Masnachol a Marchnata i gefnogi a gwella’r gwaith o gyflwyno ymchwil o’r radd flaenaf mewn tri maes allweddol:

-Diwylliant diogelwch bwyd yn y diwydiant gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod

-Ymddygiad a gwybyddiaeth diogelwch bwyd y defnyddiwr mewn amgylchedd domestig

-Addysg, cyfathrebu a hyfforddiant diogelwch bwyd mewn iechyd y cyhoedd a lleoliadau gofal iechyd gyda grwpiau cleifion bregus, gofal teulu a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd. 

Rhan o fy nghylch gwaith yw arwain ar ddatblygu systemau a phrosesau ymchwil i alinio ag amcanion ymchwil strategol, trafod a chynnig dulliau rheoli system newydd, ac adolygu a chynghori’r tîm ymchwil ar welliannau awgrymedig at ddibenion monitro a gwerthuso ansawdd.

Mae fy niddordebau ymchwil personol yn cynnwys mentrau bach i ganolig, entrepreneuriaeth, arloesedd, cydweithrediad a rhwydweithiau; ac effaith strategaethau datblygiad rhanbarthol ar weithgynhyrchu bwyd a diod Cymru a phrosesau busnesau bach a chanolig. Mae fy ngwaith ymchwil presennol yn canolbwyntio ar fentrau Triphlyg Helix ar gyfer diwydiant bwyd a diod Cymru.  

Profiad Blaenorol

I ddechrau, ymunais â ZERO2FIVE fel Rheolwr Gweithrediadau Busnes er mwyn rheoli’r adnoddau gweithrediadau trwy ddarparu cefnogaeth a datblygiad busnes ar draws ffynonellau ariannu a masnachol ZERO2FIVE. Yn dilyn hynny symudais i reoli datblygiad systemau i weithredu rheolaethau gwella prosesau a meddiannu ardystiadau rheoli ansawdd.

Cyn hynny, ymunais â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd fel uwch weinyddwr yn 2012 yn rôl Cydlynydd Gradd Sylfaen ar gyfer Ysgolion y Gwyddorau Iechyd, Celf a Rheolaeth yn dilyn gyrfa lwyddiannus yn dysgu Rheoli a Gweinyddiaeth Ariannol yn AB. Mae gen i hefyd dros 10 mlynedd o brofiad o reoli gweinyddiaeth ariannol a busnes a gafwyd yn y sector corfforaethol gwirfoddol a busnesau bach a chanolig. Yn fwy diweddar wrth i mi ymgymryd a fy MSc, ailsefydlais gysylltiadau â sector busnesau bach a chanolig Cymru er mwyn ymgymryd â thraethawd hir sy'n canolbwyntio ar Arloesi fel allwedd i dwf mewn busnesau bach a chanolig teulu yn Rhondda Cynon Taf.

Cymwysterau ac Aelodaeth Broffesiynol

MSc. Rheoli

BA (Anrh)Gweinyddiaeth Busnes

TAR (Addysg Ôl-orfodol)

Ymarferydd PRINCE2

Dip. Rheoli ansawdd

Archwilydd Arweiniol ISO 9001: 2015 Ardystiedig IRCA

Aelod o Gymdeithas Triphlyg Helix

Aelod o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheoli (ILM)

​​Cyhoeddiadau​​​​​​​

• Mayho, S., Mumford, D., Lloyd, D.C. and Redmond, E.C. (2023) Value Chain Analysis of the KITE Project: implications for food sector small medium-sized enterprises (SMEs) Wales.​ International Journal of Food System Dynamics, 14(1), 95-109.

• ​​Mayho, S., Mumford, D., Redmond, E. C., Lloyd, D. C and Cl​​ifton, N. (2024). Stakeholder Triple Helix Growth Platforms: The Regional Development of Food Sector Small to Medium Manufacturing Enterprises in Wales, United Kingdom. International Journal on Food System Dynamics (Available online January 2024).

​​​ ​​

Cyfraniadau Cynhadledd Genedlaethol a Rhyngwladol

Mayho S.​, Christensen, J.L., Clifton, N., Anderson, P.H. and Mac an Bhaird, C. The Comparative Role of Policies in Low-tech Industry Development: Evidence from Wales, Denmark and Ireland. The 17th Regional Innovation Policies Conference, Jönköping International Business School, Centre for Entrepreneurship and Spatial Economics (CEnSE), Sweden. 21st – 23rd September 2023.​​

Mayho S., Ellis, L., Mumford, D., Lloyd, D.C., Redmond, E.C. a Clifton, N. (2022) Regional Triple Helix Food Sector Small to Medium Enterprise initiatives in Wales, United Kingdom: The transition from the KITE project to Project HELIX. Cynhadledd Polisïau Arloesi Rhanbarthol 16eg, Prifysgol Pardu, Padova, yr Eidal. 22 Medi 2022.   

Mayho, S., Mumford, D., Lloyd, D.C., Redmond, E.C. a Clifton, N. (2022) Strategic and Tactical Continued Growth Platforms in Wales, United Kingdom: The Development of Food Sector Small to Medium Enterprises. Y 6ed Cynhadledd Datblygiadau mewn Rheolaeth ac Arloesedd, Ysgol Reoli Caerdydd, Caerdydd, Cymru. 19eg Mai 2022.

Mayho, S., Redmond, E.C. a Lloyd, D. (2019) Food safety management and technical innovation in Welsh food-sector SMEs: impact of Project HELIX. Poster wedi’i gyflwyno yn 33ain Cynhadledd EFFOST Rhyngwladol: “Sustainable Food Systems - Performing by Connecting”, 12fed-14eg Tachwedd, Rotterdam, Yr Iseldiroedd.

Redmond, E.C., Mayho, S., a Lloyd, D. (2019) Progression of food industry technical and food safety support for manufacturing and processing small and medium sized enterprises in Wales, UK. Poster wedi’i gyflwyno yn 33ain Cynhadledd EFFOST Rhyngwladol: “Sustainable Food Systems - Performing by Connecting”, 12fed-14eg Tachwedd, Rotterdam, Yr Iseldiroedd.

Ellis, L., Evans, E., Mayho, S. a Redmond E.C. (2019) Development of food science and technology knowledge and skills base in Wales, UK.  Poster wedi’i gyflwyno yn 33ain Cynhadledd EFFOST Rhyngwladol: “Sustainable Food Systems - Performing by Connecting”, 12fed-14eg Tachwedd, Rotterdam, Yr Iseldiroedd.

Evans, E.W., Evatt, R.L.A., Samuel, E.J., Bunston, C., Mayho, S. and Redmond, E.C. (2019) Utilizing Remote Covert Observation in Food Manufacturing and Processing Environments to Assess Hand Hygiene Compliance. Cyflwynwyd y poster yng nghyfarfod blynyddol yr International Association for Food Protection (IAFP) ar 21-24 Gorffennaf, 2019 yn Louisville, Kentucky, UDA. 

Redmond, E.C., Facey-Richards, R., Ellis, L., Mayho, S. and Lloyd, D. (2019) Food safety and technical upskilling in the Welsh food industry: impact of the KITE project 2008-2015. Cyflwynwyd y poster yn y 1st World Congress Food Safety and Security; Leiden, Yr Iseldiroedd; 24-28 Mawrth. 

Redmond, E. C., Mayho, S., Mumford, D. a Lloyd, D.C. (2016) A value chain analysis of the ‘Knowledge Innovation Technology Exchange’ (KITE) project: implications for food-sector small and medium sized enterprises (SMEs) in Wales, UK. 18fed Cyngres Gwyddor Bwyd a Thechnoleg y Byd. Dulyn, Iwerddon. Awst, 2016.

Redmond, E. C., Mayho, S., Mumford, D. a Lloyd, D.C. (2016) Value Chain Analysis of the KITE (Knowledge, Innovation, Technology Exchange) Project: Small and Medium Sized Enterprise (SME) Food Sector Case Studies in Wales, UK. 4ydd Cynhadledd Bwyd ISKEI – Cyfrifoldeb am Arloesedd ac Ymchwil yn y Gadwyn Gwerth Bwyd. Fienna, Awstria. Gorffennaf, 2016.

Mayho, S., Miller, C.J. a Thomas, B. (2014) A Case Study Investigation of Innovation as a Key to Growth in the Family SME, Emerging Themes in Business 2014 Research Conference. Casnewydd, Cymru. Mehefin, 2014.

Mayho, S., Miller, C.J. a Thomas, B. (2013) Innovation and Networks as a key to growth in the Family SME – A case study approach. 36th Institute for Small Business and Enterprise Conference. Caerdydd, Cymru. Tachwedd, 2013.