Fy rôl yng Nghanolfan y Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
Mae fy rôl yn cynnwys cefnogi gweithgynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru trwy drosglwyddo gwybodaeth Datblygu Cynnyrch Newydd (NPD) ar draws pob categori cynnyrch, gyda ffocws penodol ar:
• Gefnogi a mentora cleientiaid i ddatblygu a gweithredu proses arfer gorau NPD
• Hwyluso datblygu cynnyrch newydd a chyfredol yn ystod pob cam o'r cysyniad hyd at y lansiad
• Cynorthwyo i lunio ryseitiau ar gyfer datblygu cynnyrch yn ddiogel a rhoi arweiniad ynglŷn â phenderfynu ar oes silff
• Darparu panel synhwyraidd ar gyfer cynhyrchion i arwain datblygiad ac i gadw mantais gystadleuol ar gyfer ein cleientiaid
• Hwyluso ac arwain arloesedd a datblygiad cynnyrch ar gyfer ZERO2FIVE a'i gleientiaid