Mike Cutler

Michael Cutler

Michael Cutler      
Rheolwr Cyllid
E-bost: mcutler@cardiffmet.ac.uk
Yn ôl i'r Proffiliau

Fy rôl yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE

Rwy’n cefnogi gofynion ariannol a chyfrifyddu rheoli’r Ganolfan Diwydiant Bwyd trwy roi cymorth uniongyrchol i Ddirprwy Gyfarwyddwr Cyllid y Brifysgol a Chyfarwyddwr Cyllid Ewropeaidd a Domestig y GDB. 

Rwy’n monitro a dadansoddi gwariant drwy’r gyflogres, gan gysylltu â’r adran Gyflogres i gywiro anghysondebau a chodio staff newydd. 

Rwy’n darparu arbenigedd dadansoddi ariannol, rhagweld a chyllidebu i Gyfarwyddwr Cyllid Ewropeaidd a Domestig y GDB a Chyfarwyddwr y GDB. Rwy’n paratoi’r gyllideb ragolwg flynyddol, cysoni cyfrifon y ganolfan â chyfrifon y brifysgol, monitro lefelau dyled y ganolfan, cysylltu â’r adran gyllid ganolog ynglŷn â chodio ac amrywiannau, cynhyrchu templedi ar gyfer adrodd ariannol ac adolygu adroddiadau ariannol o ran cywirdeb a pherthnasedd.

Rwy’n gweithredu fel ‘Cynhaliwr Hawliadau’ ar y porth WEFO ar gyfer prosiect KTIP Helix, gan weithio gydag aelodau eraill o’r tîm Cyllid ar hawliadau chwarterol ar gyfer gwariant y prosiect. 

Rwy’n cyfathrebu ag archwilwyr a’r adran gyllid ganolog, gan gydgasglu’r dystiolaeth ofynnol a darparu cyngor ar ddatrys ymholiadau archwilio. 

Rwy’n rheolwr llinell ar yr Uwch Swyddog Cyllid yn y Ganolfan ac yn dirprwyo ar gyfer Cyfarwyddwr Cyllid Ewropeaidd a Domestig y GDB, lle’n briodol.

Profiad Blaenorol

Gweinyddwr Adran 2013 - 2014 yng Ngholeg Imperial Llundain

Cefnogi adrannau academaidd, rheolaeth ariannol, cyfryngwr rhwng Gweinyddwyr Adrannau eraill, y Swyddfa Ymchwil ar y Cyd, AD a Phenaethiaid adrannau.

Cydlynu ceisiadau grant a rheoli grantiau a ddyfarnwyd gyda'r Swyddfa Ymchwil ar y Cyd.

Cydlynu proses recriwtio, cysylltu rhwng DP, paneli cyfweld, cyllidwyr ac AD.

 

Gweinyddwr Cyllid Ymchwil 2011 - 2013 yng Ngholeg Prifysgol Llundain

Rheolaeth ariannol ar grantiau ymchwil a ddyfarnwyd i bedair adran brifysgol.

Adolygiad chwarterol o grantiau ymchwil trwy feddalwedd ariannol; anfonebu, datganiadau chwarterol/blynyddol, cyllidebu, cyswllt Rheoli Credyd, cyfnodolion cyfrifyddu, cysoniadau incwm/gwariant.

Paratoi anfonebau terfynol, adroddiadau gwariant diwedd grant a chysoniadau ariannol i noddwyr.

 

Cynorthwyydd Busnes 2010 - 2011 yng Nghomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Lloegr   

Swyddog Cofnodion Adrannol - Cyswllt â'r Archifau Cenedlaethol, cyfrifoldeb am ddogfennau wedi'u harchifo, rheoli strwythurau ffolderi electronig, arweinydd prosiect ôl-groniad archifau.

Cyllid - Tracio llif gwaith anfonebau (archebion pwrcasu hyd gwneud y taliad), cynnal cofrestr asedau LGBCE, dadansoddiad cyllideb blynyddol, cysylltu â chyfrifydd rheoli allanol.

Gosod archebion seneddol - Cynorthwyo'r Rheolwr Cyfathrebu i osod gorchmynion a mapio gerbron y Senedd. 

 

Cynorthwyydd Treth 2008 - 2009 yn KPMG UK LLP 

Paratoi cyfrifiannau treth gorfforaethol, ffurflenni a threth ar gyfer cyfrifon a chynnal archwiliadau sector cyhoeddus.

Cymwysterau ac Aelodaeth Broffesiynol

BA (Anrh) - Hanes