Fy rôl yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
Fel Cemegydd Dadansoddol sy’n arbenigo mewn dadansoddi Cyfansoddion Organig Anweddol (VOC), rwy’n gweithio’n agos gyda’n tîm technegol yma yn ZERO2FIVE ar amrywiaeth o brosiectau sy’n cefnogi diwydiant bwyd a diod Cymru.
Fy rôl innau yw dwyn samplu a dadansoddi VOC o ansawdd uchel i’n galluoedd profi synhwyraidd sefydledig a gwella arlwy ein cynnyrch i BBaCh Cymru trwy Brosiect HELIX.
O ran bwyd, mae VOCs yn gyfrifol am arogl cynnyrch bwyd neu ddiod. Mae’r prosiectau diweddar y bûm yn gweithio arnyn nhw gyda ZERO2FIVE wedi cynnwys edrych ar ddŵr â blas, cig oen a diodydd botanegol heb alcohol i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru, rhai mawr a bach.
Yn seiliedig ar y llwyddiannau cynnar hyn, rwy’n ymestyn ein gallu dadansoddol; mae hyn yn cynnwys echdynnu thermol a phorth aroglau er mwyn arogli cyfansoddion echludo ar gromatograffaeth nwy.
Mae fy rôl hefyd yn golygu cysylltu a meithrin cysylltiadau a chydweithrediadau â phrifysgolion eraill sy’n arbenigo mewn dadansoddi bwyd, a gwaith synhwyraidd yn arbennig.
Rôl eilaidd yw hybu ymchwil academaidd ar draws Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, gan weithio gyda thîm ZERO2FIVE a’r rhai sy’n cyd-fynd yn fwy â’r gwyddorau iechyd. Ymhlith y prosiectau presennol y mae edrych ar anweddolion clwyfau fel adnodd diagnostig ar gyfer diagnosio heintiau.