Fy rôl yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
Fy rôl yw helpu busnesau pobi, o fusnesau newydd i rai diwydiannol, gyda phob agwedd ar eu busnes.
Gall hyn fod trwy:
- Gymorth datblygu cynnyrch a ffurfio ryseitiau
- Cyrchu cynhwysion newydd
- Rhaglenni hyfforddi
- Uwchraddio offer
- Cynllunio cynhyrchu
- Cyflwyniadau cynnyrch
Trwy gysylltu â’n timau technegol a masnachol, yn ein Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, rydym yn helpu busnesau pobi i ddod yn sefydledig ac i dyfu.
Mae ein cyfleusterau o’r radd flaenaf yn ein canolfan yn cynnwys popty, cegin datblygu cynnyrch newydd yn ogystal ag ystafelloedd melysion a dadansoddi synhwyraidd.
.