Fy rôl yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
Ar ôl cwblhau gradd Meistr ran amser mewn Technoleg Bwyd ar gyfer Diwydiant ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn flaenorol, ochr yn ochr â chyflogaeth yn y diwydiant gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod, yn ddiweddar rydw i wedi cychwyn Doethuriaeth Broffesiynol yn y Ganolfan Ymchwil Diwydiant Bwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae fy mhrosiect yn canolbwyntio ar ddeall a gweithredu dulliau pwrpasol i hwyluso a gwerthuso mecanweithiau wedi’u targedu i wella diwylliant diogelwch bwyd yn y busnes yr ydw i wedi’i gyflogi ynddo. Er mwyn cynnal a gwella safonau diogelwch bwyd ledled y busnes, mae diwylliant diogelwch bwyd cadarn yn hanfodol i sicrhau bod y system reoli diogelwch bwyd wedi’i hymgorffori yn y gwaith o redeg y busnes o ddydd i ddydd, a bydd yn lleihau digwyddiadau diogelwch bwyd yn y dyfodol ac yn cyfyngu ar fygythiadau i sefyllfa ariannol ac enw da’r cwmni.
Goruchwylir y prosiect gan Dr Elizabeth C Redmond (Cyfarwyddwr Astudiaethau) a’r Athro Arthur Tatham (Goruchwyliwr) gydag arbenigedd ychwanegol yn cael ei darparu gan Dr Paul Hewlett o’r Adran Seicoleg Gymhwysol.