Mae gen i 15 mlynedd o brofiad mewn gweithgynhyrchu bwyd mewn categorïau bwyd amrywiol.
Warburtons, Poptai Casnewydd ac Avonmouth 2007 – 2018, Rolau Rheoli Hylendid/Diogelwch Bwyd/Ansawdd a Thechnegol.Rydw i wedi treulio’r rhan fwyaf o’m gyrfa (11 mlynedd) yn Warburtons, yn cynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion bara, mewn rolau amrywiol. Dechreuais gyda’r cwmni fel arweinydd tîm hylendid ac yna gwnes gynnydd wrth i gyfleoedd ymddangos. Rheolais storfeydd deunydd crai, diogelwch, hylendid ac ansawdd bwyd a threuliais gyfnod fel rheolwr technegol yn un o’u safleoedd gweithgynhyrchu yn y DU. Mae fy rolau wedi cynnwys rheoli pobl, cwynion gan gwsmeriaid, rheoli archwiliadau, camau unioni a dadansoddi gwraidd y broblem, arweinydd tîm HACCP, cynllunio hylendid, arbenigwr CIP ar gyfer y safle, archwilio mewnol, gwirio a dilysu pwynt rheoli critigol (PRhC), profi ansawdd, gwelliannau cynnyrch a hyfforddiant ar y safle mewn HACCP, Diogelwch Bwyd Lefel 2 ac Archwilio Mewnol.
Serious Food Company, Llantrisant 2006 Technegydd SAYn y Serious Food Company, roeddwn i’n gyflogedig fel technegydd SA yn eu huned a oedd yn cynhyrchu smwddis Innocent. Roeddwn i’n cynnal profion microbiolegol, cemegol ac organoleptig ar y cynhyrchion ynghyd â dilysu PRhC. Roeddwn i hefyd yn cynnal profion ar y system CIP a glendid y llinell. Dyma ble dechreuais ymddiddori mewn diogelwch bwyd a hylendid.
Smith & Nephew Medical, Casnewydd 2001 – 2005 Technegydd LabordyRoeddwn yn rhan o brosiect ymchwil meddygol 4 blynedd o hyd fel technegydd labordy’n cynnal profion microbiolegol a chemegol ar samplau.
Speciality Sauce Company, Blaenau 1998 – 2001 Technegydd LabordyDechreuais fel technegydd labordy mewn cwmni gweithgynhyrchu sawsiau, a oedd yn gweithgynhyrchu amrywiaeth o sawsiau gan gynnwys saws soi wedi’i eplesu, sawsiau dwyreiniol, cetshyp, saws tsili a dresin salad. Roeddwn i’n cynnal profion microbiolegol a chemegol ar y cynhyrchion.