Fy rôl yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
Rwy'n cefnogi cydlynu cyllid prosiectau sydd wedi eu cymeradwyo, gan gynnwys prosiectau wedi eu cyllido gan yr UE i geisiadau hawlio yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE fel y penderfynir gan Reolwr Cyllid y Ganolfan.
Rwy'n cysylltu â Chyfarwyddwr y Ganolfan, academyddion, staff technegol a chymorth i brosesu a rheoli taflenni amser hyd at y broses hawlio. Rwy'n helpu i sicrhau bod y Brifysgol a Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE (FIC) yn gwneud y gorau o'i enillion ar incwm a gwariant o fewn ei chyllidebau cymeradwy ac o fewn rheoliadau ariannol y cytunwyd arnynt, gan gynnwys safonau'r UE. Mae hyn yn digwydd trwy ddadansoddiad incwm/gwariant prosiect.
Rwy'n cynhyrchu adroddiadau ariannol sy'n dangos monitro parhaus o’r cyfrifon sydd wedyn yn cael eu hadolygu gan Uwch Dîm Rheoli Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE.
Rwy'n cysylltu â gweddill tîm Cyllid FIC ZERO2FIVE i sicrhau bod trywydd archwilio incwm a gwariant llawn sy'n cydymffurfio â gofynion yr UE yn y Ganolfan yn cael ei gynnal bob amser gan ymgorffori system gyfrifo ariannol Agresso y Brifysgol. Rwyf hefyd yn cynghori Rheolwr Cyllid y Ganolfan ar amrywiadau i wariant ariannol a gynlluniwyd yn fisol ac yn darparu awgrymiadau ar fesurau cywiro fel y bo'n briodol.
Rwy'n adrodd i'r Swyddog Cyllid yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE a hefyd yn dirprwyo yn ôl yr angen.