Jessica Lacey

Jessica Lacey

Jessica Lacey       
Rheolwr Technegol 
E-bost: jlacey@cardiffmet.ac.uk
Yn ôl i'r Proffiliau

Fy rôl yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE

Mae fy rôl fel Rheolwr Technegol Canolfan Diwydiant Bwyd Zero2Five, yn cynnwys cefnogi gweithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru drwy drosglwyddo gwybodaeth ym mhob maes diogelwch bwyd.  Rwyf hefyd yn rheoli tîm o Dechnolegwyr Canolfan Diwydiant Bwyd i gefnogi'r diwydiant.  

Profiad Blaenorol

Rheolwr Technegol - Llywodraethiant 2012 - 2014 Consortiwm Diogelwch Bwyd (rhan o Grŵp Santia)

Yn gyfrifol am lywodraethiant cyffredinol yr holl wasanaethau a gynigir ar ran Marks & Spencer, gan gynnwys Archwiliadau Diogelwch Bwyd, Ymgynghoriaeth a Hyfforddiant.

Yn gyfrifol am ddatblygu a darparu cynhyrchion hyfforddi diogelwch bwyd achrededig a phwrpasol.

Rheolwr llinell ar gyfer cymdeithion diogelwch bwyd sy'n cyflwyno archwiliadau, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth diogelwch bwyd o dan frand Santia.

 

Cyfarwyddwr Technegol - Ardystiad DS (rhan o Grŵp Santia) 2012 – 2010

Yn gyfrifol am gydymffurfiad technegol cynlluniau achrededig UKAS gan gynnwys Cynlluniau Safon Byd-eang (gan gynnwys Bwyd, Pecynnu, Storio a Dosbarthu a Chynhyrchion Defnyddwyr), a chynlluniau BEIC, Global Gap, LEAF, BOPP a PGI. 

Rheolwr Technegol Cynllun Safon Fyd-eang mewn Diogelwch, Storio a Dosbarthu Bwyd.  Archwilydd cofrestredig ar gyfer Safonau Byd-eang mewn Diogelwch Bwyd (wedi'i archwilio yn erbyn Rhifyn 5 a 6).  Wedi'i gofrestru i gwblhau archwiliadau ar gyfer Categori 10 (Prydau Parod a Brechdanau), Categori 14 (Pobi) a Chategori 15 (Bwydydd a Chynhwysion Sych).

Rheolwr Llinell ar gyfer y Tîm Technegol (gan gynnwys Rheolwr Ardystio, Rheolwyr Technegol Cynllun ac Adolygwyr Technegol) ac archwilwyr cyflogedig/cyswllt ar gyfer pob cynllun technegol.

 

Ymgynghorydd Bwyd, Ansawdd, Diogelwch a'r Amgylchedd - Penarth Management Ltd 2005 - 2010 

Yn ogystal â safon fyd-eang mewn Diogelwch Bwyd (Rhifyn 5) ymgynghoriaeth bwyd,  darperais ymgynghoriaeth i gleientiaid mewn ystod o safonau technegol gan gynnwys ISO9001:2008, ISO14001:2004 , BS OHSAS18001:2007, FSC a PEFC.

 

Rheolwr Sicrwydd Ansawdd - Kealth Foods Ltd 2003 - 2005

Yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu'r STS, BRC a'r Safon Organig ar draws y safle.

Cymwysterau ac Aelodaeth Broffesiynol

  • BSC (Anrh) Astudiaethau Bwyd (wedi graddio yn 2000)
  • M&S Hyfforddiant Diogelwch Bwyd a Hylendid 5 Diwrnod
  • M&S Hyfforddiant Alergenau 1 Diwrnod
  • Campden BRI Hyfforddiant Rheoli Alergenau 2 Ddiwrnod
  • Campden BRI Lefel 3 HACCP 2 Ddiwrnod
  • Hyfforddiant gyfnewid archwilwyr - Safonau Byd-eang ar gyfer Diogelwch Bwyd (Rhifyn 8)
  • Deall Gofynion y Safon Fyd-eang ar gyfer Storio a Dosbarthu (Rhifyn 2) 
  • NVQ Lefel 4 Iechyd a Diogelwch 
  • Hyfforddiant Archwiliwr Arweiniol BRC (Rhifyn 4)
  • Cwrs Archwiliwr Amgylcheddol Arweiniol - ISO 14001:2001 
  • Archwiliwr Arweiniol yn ISO9001:2000 System Rheoli Ansawdd 
  • NEBOSH  
  • Diploma Uwch mewn Egwyddorion HACCP Cymhwysol 
  • Tystysgrif Hyfforddi Grŵp
  • Datblygu Cynnyrch Newydd (1 diwrnod Campden BRI)
  • HACCP ar gyfer Hyfforddiant Amaethyddiaeth (1 diwrnod)