Fy rôl yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
Rwy’n un o Dechnolegwyr Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE. Rwy'n gweithio gyda llawer o bartneriaid y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru i ddatblygu systemau technegol a sicrhau y cynhelir safonau ansawdd drwy eu prosesau i gyd. Gall hyn gynnwys cefnogaeth wrth ysgrifennu cynlluniau HACCP, adolygu dogfennaeth broses, dadansoddi maethol, adolygu labelu, gwerthuso synhwyraidd, dadansoddi cemegol, neu gefnogaeth wrth baratoi ar gyfer archwiliadau trydydd parti ar ffurf archwiliadau mewnol. Rwy’n gweithio ar brosiectau ymgynghori ac ymchwil hefyd, yn ôl yr angen.